Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Rownd Derfynol Rhanbarthol Premier League Primary Stars Merched D11 / Premier League Primary Stars U11 Girls Regional Final

    Fri 04 Mar 2022

    Da iawn i dîm pêl droed merched Blwyddyn 6 ar eu perfformiad nhw yn rownd rhanbarthol cystadleuaeth Premier League Primary Stars yng Nghaerdydd heddiw. Yn dilyn eu buddugoliaeth yn rownd ysgolion Abertawe (lle'u gwobrwywyd nhw gyda chitiau personol Clwb Pêl droed Abertawe), buon nhw'n cystadlu yn erbyn timau gorau Cymru a Gorllewin Lloegr, ac er na lwyddon nhw gyrraedd y rown derfynol y tro hwn, gallwn nhw ymfalchio yn eu perfformiad. Da iawn chi!

     

    Well done to our Year 6 girls football team on their performance at today's Premier League Primary Stars Regional Finals in Cardiff. Having won the Swansea schools round (and been presented with full Swansea City FC personalised kits), they were faced with the best teams for Wales and the West of England. Whilst they didn't make it to the final on this occasion, they can be extremely proud of their performance. Da iawn chi! (4/3/22) 

  • Diwrnod y Llyfr / World Book Day

    Thu 03 Mar 2022

    Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i'r ysgol gyfan ddathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o weithgareddau hwylus, gan gynnwys gwisgo fel ein hoff gymeriadau llenyddol a mwynhau sesiynau stori tra'n gwledda ar fisgedi a llaeth blasus. Diolch yn fawr iawn i Asda Gorseinon am eu haelioni nhw yn rhoddi'r llaeth a'r bisgedi. Blasus iawn!

     

    Everyone had a great time today as we celebrated World Book Day with a variety of activities, including dressing up as our favourite literary characters and enjoying some wonderful story sessions, complete with milk and cookies. Thank you to Asda Gorseinon for generously donating the milk and cookies. They were delicious! (3/3/22)

  • Sgiliau 'Bushcraft' / Bushcraft Skills

    Wed 09 Feb 2022

    Joiodd Blwyddyn 4 mas draw yng nghwmni Andrew Price o Dryad Bushcraft heddiw wrth ddatblygu sgiliau elfennol 'bushcraft'. Diolch i Andrew, 'Bear Grylls Cymru', mae gan ein disgyblion llawer gwell dealltwriaeth o'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i oroesu mewn argyfwng. 

     

    Year 4 had a wonderful time in the company of Andrew Price from Dryad Bushcraft today, learning all about the basics of bushcraft survival. Thanks to the 'Welsh Bear Grylls', our pupils now have a far better grasp of the basic skills needed to survive in an emergency. Diolch Andrew! (9/2/22)

  • Llwyddiant Pel droed / Football Success

    Mon 07 Feb 2022

    Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl droed merched Bl 6 yr ysgol ar eu buddugoliaeth yn nhwrnamaint pêl droed merched ysgolion Abertawe heddiw. Enillon nhw pob un o’u gemau, gan ildio ond yr 1 gôl trwy gydol y twrnamaint. O ganlyniad i hyn, bydd y tîm yn cynrychioli Dinas a Sir Abertawe ym mhencampwriaeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth. Da iawn chi!

     

    Congratulations to our Year 6 girls football team on winning today's Swansea schools football tournament. They won all of their matches and only conceded 1 goal throughout the tournament. As a result of their success, they will now go on to represent the City & County of Swansea at the Welsh finals in Cardiff in March. Well done!  (7/2/22)    

  • Casglu Sbwriel / Litter picking

    Tue 01 Feb 2022

    Siomedig yw gweld cymaint o sbwriel yn chwythu o gwmpas ein cymuned. Fodd bynnag, mae gan Ysgol Gymraeg Pontybrenin blant cyfrifol a chydwybodol sy'n angerddol am yr amgylchedd ac am gadw ein hardal leol yn lân. Yn dilyn crwydr o gae yr ysgol a'r trofan, casglwyd 5 bag llond sbwriel, gan gynnwys caniau, poteli a phecynnau creision. Helpwch ni gadw ein hamgylchedd yn lân ac yn daclus trwy daflu eich sbriel yn y bin os gwelwch yn dda.

     

    It's always disappointing to see so much litter dotted around our local community. However, we have very responsible and conscientious children at Ysgol Gymraeg Pontybrenin who are passionate about the environment and keeping our surrounding area litter free. Following a trawl of the school field and turning circle, we managed to collect 5 bags full of rubbish, including cans, bottles and crisp packets. Please help us keep our environment clean and tidy by binning your litter. (1/2/22)  

  • #BlasOBontybrenin / #ATasteOfPontybrenin

    Thu 09 Dec 2021

    Diolch yn fawr iawn i Aled o Ynni Da am ei holl waith, egni a chreadigrwydd wrth greu fideo #BlasOBontybrenin ac am helpu ni ddathlu yr hyn sy’n arbennig am ein hysgol. https://youtu.be/rHBHL0asiJ4  

     

    A huge thank you to Aled from Ynni Da for his energy, enthusiasm and creativity in creating our #BlasOBontybrenin video and for helping us celebrate all that’s great about our school. Diolch Aled!  https://youtu.be/rHBHL0asiJ4  (9/12/21)

  • Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Show Racism the Red Card

    Tue 23 Nov 2021

    Diolch i elusen 'Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth' am gefnogi'r ysgol gyda gweithdai gwrth-hiliaeth i ddisgyblion Blwyddyn 6 heddiw. Roedd y sesiynau yn bwerus iawn ac yn pwysleisio'r ffaith bod angen i bob un ohonom fynd i'r afael a hiliaeth gyda'n gilydd.

     

    Thanks to the 'Show Racism the Red Card' charity for supporting the school with the anti-racism workshops for our Year 6 pupils today. It was a real eye-opener and taught us that racism is something that we must all tackle together.  (23/11/21) 

  • Rygbi Ysgolion Ardal Llwchwr D11 / Loughor Schools District Rugby U11

    Fri 19 Nov 2021

    Llongyfarchiadau mawr i Jake, Ollie, Isaac B, Isaac L, William a Logan ar gael eu dewis i gynrychioli Ysgolion Ardal Llwchwr Rygbi D11 yn dilyn cystadlu brwd yn nhreialon diweddar. Dymuniadau gorau i chi a'r tîm am y tymor i ddod.

     

    Congratulations to Jake, Ollie, Isaac B, Isaac L, William and Logan on being chosen to represent Loughor District Schools Rugby U11 following the recent trials which were hotly contested. Good luck to them for the coming season.  (19/11/21)

  • Plant Mewn Angen / Children in Need

    Fri 19 Nov 2021

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein hapêl Plant Mewn Angen heddiw. Casglwyd swm arbennig o £682 yn dilyn rhoddion hael gan ddisgyblion am wisgo fel Arwyr / Archarwyr. Hyfryd!

     

    A big thank you to everyone for supporting our Children in Need appeal today. We raised a fantastic £682 following donations from pupils for dressing ad Heros / Superheroes. Diolch yn fawr iawn!  (19/11/21) 

  • Cyflwyno Siec i Ganolfan Gancr Maggie's / Presenting a cheque to Maggie's Cancer Centre

    Fri 05 Nov 2021

    Hyfryd oedd croesawu Lucia o Ganolfan Gancr Maggie's yn Abertawe i’r ysgol heddiw er mwyn cyflwyno siec o £4800 i’r elusen arbennig hon ac i glywed mwy am eu gwaith pwysig nhw. Diolch unwaith eto i deulu YGG Pontybrenin am eich haelioni.

     

    Wonderful to welcome Lucia from Maggie's Cancer Centre in Swansea to school today where we presented this amazing charity with a cheque for £4800 and heard all about the vital work they do. Thank you once again to the entire YGG Pontybrenin family for your incredible generosity. Diolch! (5/11/21)

Top