Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Eisteddfod Gwyl Ddewi y Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase St David's Eisteddfod
Tue 03 Mar 2020Cafwyd llawer o hwyl a sbri yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi y Cyfnod Sylfaen heddiw, gyda disgyblion yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu, llefaru a dathlu eu doniau creadigol, gan gynnwys y gystadleuaeth 'Y Genhinen Orau'. Da iawn blant!
We had a lot of fun with today's Foundation Phase St David's Eisteddfod, with pupils celebrating their Welshness by singing, reciting and showcasing their creative talents, including our 'Best Leek' competition. Well done everyone! (3/3/20)
-
Eisteddfod Gwyl Ddewi Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2 St David's Eisteddfod
Mon 02 Mar 2020Gyda balchder ac angerdd am ein Cymreictod a'n hiaith, dathlwyd Eisteddfod Cyfnod Allweddol 2 eleni gydag amrywiaeth o ganu, llefaru a thrawsdoriad hyfryd o waith celf. Llongyfarchiad mawr i Ella am gipio Cadair yr Eisteddfod gyda'i stori fer, 'Y Gyfrinach'. Yn ôl ein beirniad anrhydeddus, Miss Elen Jones, roedd hi'n stori teimladwy a disgrifiadol iawn gyda diweddglo annisgwyl. Da iawn ti Ella.
With pride and passion for our Welshness and our language, our junior pupils celebrated our Key Stage 2 school Eisteddfod today with a variety of singing, reciting and a wonderful mix of art work. Congratulations to Ella on winning this year's Eisteddfod Chair competition with her short story, 'The Secret'. According to our honorary judge, Miss Elen Jones, this was a wonderfully descriptive story, full of emotion and with an unexpected ending. Da iawn ti Ella! (2/3/20)
-
Comisiynydd Plant Cymru / Children's Commissioner for Wales
Wed 12 Feb 2020Diolch yn fawr iawn i Rhian o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ymweld â disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i drafod pwysigrwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i annog plant i leisio eu barn ar bob cyfle.
Thank you to Rhian from the office of the Children's Commissioner for Wales for visiting with our Key Stage 2 pupils today in order to discuss The United Nations Convention on the Rights of the Child and to encourage them to voice their opinions at every possible opportunity. (12/2/20)
-
Jambori yr Urdd / Urdd Jamboree
Thu 06 Feb 2020Hyfryd oedd cael ymuno gyda Martyn Geraint a Mr Urdd yn Jambori yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Dreforys heddiw. Gyda phob un o ddigyblion Cyfnod Allweddol 2 yn bresennol, ymunon ni gyda disgyblion eraill o ysgolion Cymraeg Abertawe am brynhawn o hwyl a sbri.
It was wonderful to join Martyn Geraint and Mr Urdd at today's Urdd Jamboree at Morriston Comprehensive School. Every one of our Key Stage 2 pupils was present, joining other pupils from other Welsh medium schools in Swansea for a great afternoon of fun. (6/2/20)
-
Noson Diogelwch y We / Internet Safety Evening
Wed 05 Feb 2020Diolch yn fawr iawn i PC Hughes am arwain ein Noson Diogelwch y We heno. Roedd y niferoedd yn siomedig iawn, gydag ond 5 rhiant yn mynychu, ond roedd pawb yn gytun bod y wybodaeth yn fuddiol iawn ac yn ddefnyddiol wrth i ni ymdrechu i gadw'n plant yn ddiogel ar y we.
A big thank you to PC Hughes for leading our Internet Safety Evening tonight. It was a really disappointing turnout, with only 5 parents attending, but a lot of valuable and worthwhile information was shared as to how we can stay safe whilst online. (5/2/20)
-
Disgo Dydd Miwsig Cymru gyda Marci G / Welsh Music Day Disco with Marci G
Wed 05 Feb 2020Blwyddyn 5 wedi joio mas draw wrth ganu a dawnsio i gerddoriaeth Cymraeg yng nghwmni disgyblion cymuned YG Gŵyr heddiw. Diolch yn fawr iawn i Marc Griffiths o Radio Cymru / Cymru FM am arwain yr adloniant gyda thrawsdoriad o gerddoriaeth cyfoes Cymraeg arbennig. #DyddMiwsigCymru
Our Year 5 pupils had a fantastic time singing and dancing to some great Welsh music today in the company of other pupils from the YG Gŵyr cluster schools. A big thank you to Marc Griffiths from Radio Cymru / Cymru FM for leading the entertainment with a great mix of modern Welsh music. Diolch yn fawr iawn. #DyddMiwsigCymru (5/2/20)
-
Gweithdai cerddoriaeth Cymraeg gyda Bronewn Lewis / Welsh music workshops with Bronwen Lewis
Mon 03 Feb 2020Disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 wedi mwynhau mas draw yng nghwmni Bronwen Lewis heddiw wrth gyfansoddi caneuon eu hunain fel rhan o weithdai cerddoriaeth y bore cyn cloi’r diwrnod gyda gig fantastig. Rhan o weithgareddau Wythnos Gymreictod.
Our Year 4, 5 & 6 pupils had a wonderful time with BronwenLewis today, composing their own songs in the morning workshops before closing the day with a fantastic gig in the afternoon. Part of our Welsh Week. (3/2/20)
-
Pencampwyr Nofio yr Urdd / Urdd Swimming Champions
Sat 25 Jan 2020Pencampwyr Cymru! Llongyfarchiadau mawr i Phoebe ar ennill y fedal aur yn Ras Rhydd Merched Bl 3&4 Rownd Derfynol Pencampwriaeth Nofio yr Urdd ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Caerdydd heddiw, ac i Tegan, Evie, Bethan a Phoebe ar ennill y fedal aur yn y Ras Gyfnewid Rhydd. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn eu llwyddiant nhw.
Welsh Champions! Congratulations to Phoebe on winning gold in the Year 3&4 Girls Freestyle Race at today's Urdd National Swimming Finals at Cardiff's International Pool and to Tegan, Evie, Bethan & Phoebe on capturing the gold in the Year 3&4 Girls Freestyle Relay. The school is incredibly proud of their achievements. Da iawn chi! (25/1/20)
-
Discos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos
Thu 23 Jan 2020Dau ddisgo Santes Dwynwen llwyddiannus iawn echnos a heno. Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi, yn enwedig aelodau ‘Ffrindiau YGG Pontybrenin’ am eu gwaith diflino.
Two very successful St Dwynwen’s discos on Tuesday night and this evening. A big thank you to everyone for supporting us, particularly the members of ‘The Friends’ for all their tireless work. Diolch yn fawr iawn! (23/1/20)
-
Blwyddyn Newydd Dda i chi! / A Happy New Year!
Wed 08 Jan 2020Mae disgyblion Blwyddyn 4 wedi bod yn brysur yn astudio hen draddodiadau'r flwyddyn newydd a dyma nhw wrthi’n brysur yng nghanol y mwd a’r baw yn creu 'perllan' ar gyfer dathlu’r Hen Galan. Joio!Our Year 4 pupils have been busy learning about the old traditions associated with the new year. Here they are getting stuck into the mud and creating a 'perllan' (orchard) as part of the old New Year’s tradition. Joio! (8/1/20)
