Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Pencampwyr Rygbi yr Urdd! / Urdd Rugby Champions!

    Tue 03 May 2022

    Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi Blwyddyn 6 ar ennill twrnamain rygbi Urdd Gorllewin Morgannwg eleni. Gyda chyfuniad perffaith o chwaraewyr talentog, gwaith tîm da ac hyfforddiant o'r radd flaenaf gan Mr Sterl, enillodd y tîm pob un o'u 7 gêm ar y ffordd i'r teitl. Yn anffodus, does dim rownd cenedlaethol eleni ond gall y garfan gyfan ymfalchïo yn eu llwyddiant. Da iawn chi!  

     

     

    Congratulations to our Year 6 rugby team on winning this year’s West Glamorgan Urdd rugby tournament. A winning combination of very talented players, teamwork, determination and top class coaching from Mr Sterl saw the team win all 7 of their matches on the way to the title. Unfortunately, there is no national final this year but the entire squad can take a great deal of pride in their accomplishment. Da iawn chi! (3/5/22)

     

  • Pencampwriaeth Gymnasteg Ysgolion Prydain / British Schools Gymnastics Championships

    Sat 30 Apr 2022

    Llongyfarchiadau i grŵp o ddisgyblion hynod dalentog ac ymroddedig a gynrychiolodd yr ysgol ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Ysgolion Prydain yn Stoke yn heddiw. Cystadlodd Bella, Carys, Daisy, India, Poppy ac Amelia yn erbyn rhai o gymnastwyr gorau Prydain yn y gystadleuaeth tîm, ac er na lwyddon nhw gael lle ar y podiwm, cawson nhw ganmoliaeth arbennig am eu perfformiad. Yng nghystadleuaeth y parau, enillodd Bella a Daisy y fedal efydd am eu perfformiad a’u gwaith tîm arbennig nhw, gan gyhwfan baner Cymry yn browd ar y podiwm. Da iawn chi!

     

    Congratulations to a group of incredibly talented and dedicated pupils who represented the school at the recent British Schools Gymnastics Championships in Stoke. Bella, Carys, Daisy, India, Poppy and Amelia competed against some of the best young gymnasts in Britain in the team event, and whilst they didn’t get a place on the podium, they earned rave reviews for their performance. In the pairs competition, some incredible teamwork by Bella and Daisy saw them take the bronze medal and a place on the podium where they proudly waved the Welsh flag! Da iawn chi! (30/4/22)

  • Llwyddiant Celf yr Urdd / Urdd Art Success

    Thu 28 Apr 2022

    Llongyfarchiadau mawr i Poppy, Ffion, Florence, Cadi a Cecilia ar eu llwyddiant yng nghystadlaethau celf yr Urdd eleni. Dyfarnwyd eu gwaith nhw fel esiamplau arbennig o gelf amrywiol, gyda phob un yn mynd ymlaen i gynrychioli rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nimbych ym mis Mai. Da iawn chi!  

     

    Congratulations to Poppy, Ffion, Florence, Cadi and Cecilia on their success with this year's Urdd art competition. Their work was judged to be of the highest standard and each piece will now go on to represent the West Glamorgan region at the Urdd National Eisteddfod in Denbigh in May. Da iawn chi!  (28/4/22)   

  • Gweithdai Robotiaid

    Wed 27 Apr 2022

    Diolch i Brifysgol Abertawe am arwain disgyblion egniol a brwdfrydig Blwyddyn 3 mewn cyfres o weithdai Robotiaid heddiw. Joion ni mas draw!  

     

    Thank you to Swansea University for leading our energetic and enthusiastic Year 3 pupils in a series of Robotics workshops today. We had a fantastic time! (27/4/22)

  • Gweithdy cam-ddefnyddio sylweddau Bl 6 / Substance misuse workshop with Yr 6

    Mon 04 Apr 2022

    Diolch i PC Hughes am y gweithdy buddiol iawn ar gam-ddefnyddio sylweddau gyda disgyblion Blwyddyn 6 heddiw. Roedd hi'n agoriad llygad a braf oedd gweld a chlywed disgyblion yn trafod eu profiadau a'u gofidion yn onest.

     

    Thank you to PC Hughes for the really beneficial substance misuse workshop with Year 6 today. It was a real eye-opener and it was great to see and hear pupils discussing their experiences and concerns openly and honestly. (4/4/22) 

  • Gweithdy Mared Davies (Cerflunydd) / Mared Davies (Sculptor) Workshop

    Fri 01 Apr 2022

    Mwynheodd disgyblion Blwyddyn 3, 4 a 5 mas draw yn datblygu eu sgiliau creadigol gyda'r artist / cerflunydd dur Mared Davies dros yr wythnosau diwethaf i greu darn o waith celf i goffáu y pandemig Covid-19. Bydd y darn terfynol yn cael ei ddadorchuddio yn y dyfodol agos. 

     

    Our Year 3, 4 and 5 pupils have had a great time developing their creative skills over the past few weeks, working with the artist / steel sculptor Mared Davies to create a large piece of artwork to commemorate the Covid-19 pandemic. The finished piece, which every pupil contributed to, will be unveiled in the near future. (1/4/22) 

  • Diogelwch Tan / Fire Safety

    Mon 28 Mar 2022

    Diolch i Wasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am y cyflwyniad ar ddiogelwch tân heddiw. Roedd hi'n gyflwyniad difyrrus a buddiol, yn enwedig gyda chymaint o danau gwair ar hyn o bryd.

     

    Thank you to Mid and West Wales Fire & Rescue Service for today's entertaining and informative presentation on fire safety, particularly with so many grass fires at the moment. Diolch! (28/3/22)  

  • Wythnos Masnach Deg / Faire Trade Week

    Mon 21 Mar 2022

    Llongyfarchiadau i ddosbarthiadau Blwyddyn 2 Mrs Griffiths a Blwyddyn 3&4 Mr Sterl am ennill y gystadleuaeth casglu symbolau Manach Deg. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion (a'u rhieni wrth gwrs!) yn prynu nwyddau Masnach Deg dros y pythefnos diwethaf. Arbennig!

     

    Congratulations to Mrs Griffiths' Year 2 class and Mr Sterl's Year 3&4 class on winning the competition to collect the most Fair Trade symbols. It was great to see so many pupils (and their parents of course!) buying Fair Trade goods over the past fortnight. Well done!  (21/3/22)

  • Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success

    Fri 18 Mar 2022

    Llongyfarchiadau mawr i gymnastwyr talentog ein hysgol ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Acro Ysgolion Cymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd heddiw. Cynrychiolodd Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy ac Isabella yr ysgol gydag anrhydedd, gydag Isabella & Daisy yn ennill aur a Poppy & Carys yn cipio efydd yn y Parau Acro Dan 11 oed. Enillodd y tîm aur yn y Grŵp Acro gyda pherfformiad rhagorol mewn cystadleuaeth o safon uchel. Da iawn chi!

     

    Congratulations to some very talented gymnasts on their success at today's Welsh Schools Acro Competition in Sophia Gardens, Cardiff. Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy and Isabella all represented the school with distinction, with Isabella & Daisy winning gold and Poppy & Carys taking bronze in the Under 11s Pairs Acro. The team won a collective gold in the Group Acro with an outstanding performance. Da iawn chi! (18/3/22)

  • Cefnogi yr Wcrain / Supporting Ukraine

    Fri 18 Mar 2022

    O ganlyniad i haelioni teulu YGG Pontybrenin, codwyd swm arbennig o £2130 i apêl yr Wcrain heddiw. Diolch i'r cyngor ysgol a disgyblion Blwyddyn 6 am drefnu'r holl weithgareddau, gan gynnwys y paentio wynebau, gwerthiant y tocynnau raffl a'r gemau amrywiol. Mwynheodd pawb codi arian i'r sawl sydd ei angen fwyaf ar hyn o bryd. Diolch!

     

    Thanks to the generosity of the YGG pontybrenin family, we raised an amazing £2130 for the Ukraine appeal. Thank you to the school council and our Year 6 pupils for arranging all the activities, including the face painting, raffle ticket sales and the various games. Everyone had a great time raising money for those in most need at this moment in time. Diolch! (18/3/22)  

Top