Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Literacy & Numeracy Evening / Noson Lythrennedd a Rhifedd

    Tue 13 Feb 2018

    Er mai siomedig oedd y niferoedd mynychodd ein noson Lythrennedd a Rhifedd heno, cadarnhaol iawn oedd yr adborth a dderbyniwyd gan y rhieni a fynychodd, gyda nifer ohonynt yn gweld budd mawr yn rhannu yn y strategaethau effeithiol a drafodwyd. 

     

    Although the turnout was disappointing, those parents who did attend our Literacy & Numeracy event this evening found the guidance and support on offer very beneficial, with a number of parents commenting on the effective strategies that were shared. (13/2/18) 

  • Proms Lleisiol Clwstwr Ysgol Gyfun Gwyr / Ysgol Gyfun Gwyr Cluster Vocal Proms

    Thu 08 Feb 2018

    Hyfryd oedd gweld a chlywed cymaint o ddisgyblion Blwyddyn 6 ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gŵyr yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd yn ein Proms Lleisiol heno. Roedd safon y canu yn arbennig a braf oedd gweld cymaint o blant yn cymdeithasu'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Da iawn chi! 

     

    It was wonderful to see and hear so many year 6 pupils from the Ysgol Gyfun Gŵyr cluster schools enjoying each other's company during this evening's Vocal Proms. The standard of singing was excellent and it was great to see so many children socialising confidently through the medium of Welsh. Da iawn chi!  (8/2/18)

  • Disgos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos

    Thu 08 Feb 2018

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos Santes Dwynwen yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd dros £1000! Ymlaen Pontybrenin!

     

    A big thank you to everyone for supporting our St Dwynwen's discos this week. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised over £1000! Ymlaen Pontybrenin! (9/2/18)  

  • Wythnos 'Dathlu fy Sgiliau' / 'Celebrating my Skills' week

    Fri 02 Feb 2018

    Bu'r diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' y dosbarthiadau Derbyn yn lwyddiant ysgubol unwaith eto y tymor hwn, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau. Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our Reception classes 'Celebrating my Skills' days proved very successful yet again this term, with a large number of parents and grandparents attending. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents / grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (2/2/18)

  • Carolau & Choeden / Carols & Christmas Tree

    Tue 19 Dec 2017

    Braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, yn ogystal â'r ocsiwn ar y noson, codwyd £1563. Gydag £1800 wedi ei godi eisioes yn ein Ffair Nadolig, mae'n gyfanswm anhygoel o £3363. Gai ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! 

     

    The YGG Pontybrenin family were out in force once again last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, along with last night's auction, we raised an amazing £1563. Added to the £1800 we raised with the Christmas Fair, that's an incredible £3363. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!  (19/12/17)

  • Cadw'n Smart ar y We / Keeping Smart on the Internet

    Mon 18 Dec 2017

    O ganlyniad i ymweliad PC Bowen heddiw, bydd disgyblion YGG Pontybrenin llawer mwy diogel tra'n defnyddio'r we ar ôl y gweithdy 'Cadw'n Smart'. Dysgon ni gymaint am ddiogelu cyfrineiriau a sut i gadw ein gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Diolch yn fawr iawn!     

     

    Thanks to PC Bowen, YGG Pontybrenin's pupils will be much safer in their use of the internet following today's 'Keeping Smart' workshop. We learnt so much about password safety and keeping our identity confidential. Thank you! (18/12/17) 

  • Ffair Nadolig / Christmas Fair

    Thu 30 Nov 2017

    Codwyd £1800 yn ein Ffair Nadolig, gyda chyfanswm y raffl heb ei gyfrif eto (raffl i'w dynnu ar noson y 'Coeden a Charolau'). Ar ran holl ddisgyblion yr ysgol, carwn ddiolch i holl deulu YGG Pontybrenin am eich cefnogaeth a'ch haelioni unwaith eto. Gai hefyd ddiolch i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith diflino yn trefnu a pharatoi y Ffair - mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r ysgol i fuddsoddi mewn offer TGCh newydd i'r ysgol yn ogystal â phrynu citiau chwaraeon newydd. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    We raised a fantastic £1800 with our Christmas Fair, with the raffle total yet to be counted (raffle to be drawn on the evening of the 'Christmas Tree & Carols' event). On behalf of all the school's pupils, can I thank the entire YGG Pontybrenin family for your support and generosity once again. Can I also say a great big thank you to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard in preparing and organising the Fair - your efforts are very much appreciated. This money will allow the school to invest in new ICT equipment as well as new sports kit. Diolch yn fawr iawn! (30/11/17)

  • Plant Mewn Angen / Children In Need

    Fri 17 Nov 2017

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi diwrnod Plant Mewn Angen heddiw. O ganlyniad i'ch haelioni, codwyd £533.20. Arbennig!

     

    Thank you very much to everyone who supported Children In Need day today. Thanks to your generosity we raised £533.20. Amazing!  (17/11/17) 

  • Apel Bocs 'Sgidiau Nadolig / Christmas Shoebox Appeal

    Fri 27 Oct 2017

    Casglwyd 64 o focsys esgidiau ar gyfer Apêl Bocs 'Sgidiau Nadolig eleni. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau hael. Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o unigolion yng ngwledydd mwyaf difreintiedig Ewrop.

     

    We collected 64 boxes for this year's Christmas Shoebox Appeal. Thank you very much to all those who donated so generously to the cause. Your generosity will make a huge difference to so many individuals in some of Europe's most deprived countries.  (27/10/17)  

  • Disgos yr Hydref / Autumn Discos

    Fri 27 Oct 2017

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £1300! Ymlaen Pontybrenin!

     

    A big thank you to everyone for supporting our discos this week. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £1300! Ymlaen Pontybrenin! (26/10/17)  

Top