Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Sesiynau amddiffyn gyda Krav Maga / Self-defence sessions with Krav Maga
Thu 10 Jan 2019Diolch yn fawr iawn i'r bois o Krav Maga TSP am arwain disgyblion CA2 mewn sesiynau hunan amddiffyn heddiw. Yn ogystal â'n haddysgu ni sut i amddiffyn ein hunain, cafon ni lawer o hwyl a sbri hefyd.
A big thank you to the boys from Krav Maga TSP for leading our KS2 pupils in self-defence sessions today. Not only did they teach us vital skills on how to defend ourselves but we had a great deal of fun in the process. Diolch yn fawr iawn! (10/1/19)
-
Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree
Mon 17 Dec 2018Braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, yn ogystal â'r ocsiwn ar y noson, codwyd £1370. Gydag £1620 wedi ei godi eisioes yn ein Ffair Nadolig, mae'n gyfanswm anhygoel o £2990. Gai ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
The YGG Pontybrenin family were out in force once again last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, along with last night's auction, we raised an amazing £1370. Added to the £1620 we raised with the Christmas Fair, that's an incredible £2990. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (17/12/18)
-
Carolau Nadolig yn y gymuned / Christmas carols in the community
Mon 10 Dec 2018Bu côr talentog yr ysgol - 58 o ddisgyblion i gyd, yn diddanu cynulleidfa gwerthfawrogol yn Asda Gorseinon heddiw gydag amrywiaeth o garolau Nadolig Cymraeg, o dan arweiniad arbennig Mrs Parkhouse a Mrs Dando. Am ddisgyblion talentog!The school’s fantastic choir - 58 pupils in all, entertained an appreciative audience at Asda Gorseinon today with a variety of Welsh Christmas carols, under the expert leadership of Mrs Parkhouse & Mrs Dando. What talented pupils we have! (10/12/18)
-
Ymweliad Mr Urdd / Mr Urdd's visit
Fri 07 Dec 2018Braf oedd croesawu Mr Urdd i'r ysgol heddiw a chael y cyfle i drafod yr holl weithgareddau hwylus sydd wedi eu trefnu ar gyfer aelodau'r Urdd. Mae Mr Urdd yn edrych ymlaen yn fawr at weld a chlywed am lwyddiannau disgyblion YGG Pontybrenin eto eleni.
It was great welcoming Mr Urdd to school today and having the opportunity to discuss all the exciting opportunities that have been planned for members of the Urdd this year. He is very much looking forward to seeing and hearing YGG Pontybrenin's pupils succeeding in various field once again. (7/12/18)
-
Goleuo Casllwchwr / Lighting Up Loughor
Fri 23 Nov 2018Dechreuon ni ein dathliadau Nadolig eleni gyda pherfformiad gan gôr yr ysgol yn y digwyddiad 'Goleuo Casllwchwr' yn eglwys Dewi Sant yng Nghasllwchwr. Roedd y côr yn wych unwaith eto a braf oedd gweld cymaint o bobl yn mwynhau eu hunain.
This year's Christmas celebrations began with an appearance by the school's choir at the 'Lighting Up Loughor' event at St David's Church, Loughor. The performance was outstanding as always and a wonderful evening was had by all who attended. (23/11/18)
-
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Fri 23 Nov 2018Codwyd £1620 yn ein Ffair Nadolig neithiwr, gyda chyfanswm y raffl heb ei gyfrif eto (raffl i'w dynnu ar noson y 'Coeden a Charolau'). Ar ran holl ddisgyblion yr ysgol, carwn ddiolch i holl deulu YGG Pontybrenin am eich cefnogaeth a'ch haelioni unwaith eto. Gai hefyd ddiolch i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith diflino yn trefnu a pharatoi y Ffair - mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r ysgol i fuddsoddi mewn adnoddau newydd i bob dosbarth. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
We raised a fantastic £1620 with last night's Christmas Fair, with the raffle total yet to be counted (raffle to be drawn on the evening of the 'Christmas Tree & Carols' event). On behalf of all the school's pupils, can I thank the entire YGG Pontybrenin family for your support and generosity once again. Can I also say a great big thank you to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard in preparing and organising the Fair - your efforts are very much appreciated. This money will allow the school to purchase new resources for every class. Diolch yn fawr iawn! (23/11/18)
-
Bocsio a Swmba / Boxing & Zumba
Wed 21 Nov 2018Diolch yn fawr iawn i Charlie, Sean, Cameron ac Yvette o Ganolfan Hamdden Penyrheol am arwain sesiynau blasu bocsio a swmba gyda disgyblion CA2 heddiw. Joiodd pawb y gweithgareddau egnïol mas draw!
A big thank you to Charlie, Sean, Cameron and Yvette from Penyrheol Leisure Centre for leading our KS2 pupils in boxing and zumba taster sessions today. Everyone had a great time and thoroughly enjoyed the high tempo activities. (21/11/18)
-
Plant Mewn Angen / Children in Need
Fri 16 Nov 2018Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi apêl Plant Mewn Angen heddiw. Casglwyd swm arbennig o £787.50 yn dilyn rhoddion hael gan ddisgyblion am wisgo'u pyjamas i'r ysgol ac am y cyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth dylunio Pudsey. Hyfryd!
A big thank you to everyone for supporting our Children in Need appeal today. We raised a fantastic £787.50 following donations from pupils for wearing their pyjamas to school and for the opportunity of competing in our design Pudsey competition. Diolch yn fawr iawn! (16/11/18)
-
Gwasanaeth gwrth-fwlian gyda PC Hughes / Anti-bullying assembly with PC Hughes
Thu 15 Nov 2018Diolch yn fawr iawn i PC Hughes am ymweld â'r ysgol heddiw i drafod pwysigrwydd gwrth-fwlian fel rhan o Wythnos Gwrth-Fwlian 2018.
A big thank you to PC Hughes for visiting with us today to discuss the importance of anti-bullying as part of Anti-Bullying Week 2018. (15/11/18)
-
Gwasanaethau Diolchgarwch CA2 / KS2 Thanksgiving Services
Thu 25 Oct 2018Da iawn i bob un o ddisgyblion yr Iau a gyfranodd mor arbennig at lwyddiant y Gwasanaethau Diolchgarwch yn eglwys Santes Catherine yr wythnos hon. Roedd safon y canu a'r llefaru yn arbennig o dda a hyfryd oedd cael rhannu neges bwysig diolchgarwch gyda theulu YGG Pontybrenin.Well done to every one of our Junior pupils who contributed so wonderfully to the success of the Thanksgiving Services that have been held over the past week at St Catherine's church. The standard of singing and reciting has been excellent and it was great to be able to share the important message of thanksgiving with the YGG Pontybrenin family. (25/10/18)
