Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Lawnsio 'Ap' newydd Cyw / Launching Cyw's new 'App'

    Thu 18 May 2017

    Plant y Meithrin a'r Derbyn wedi cael amser hyfryd yng nghwmni Jen a Jim bore 'ma wrth iddynt lawnsio ap newydd Byd Cyw. Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho nawr!

     

    Our Nursery & Reception pupils had a great time this morning with Jen and Jim, as they launched the new Byd Cyw app. The app is available to download now! (18/5/17)

  • Arwerthiant Oriel Gelf y Derbyn / Reception Art Gallery Sale

    Mon 15 May 2017
    Hyfryd oedd gweld Pablo Picassos Pontybrenin (Dosbarthiadau Mrs Fewings, Miss White a Miss Rhys) yn gwerthu eu campweithiau celf yn Yr Oriel heddiw. Arbennig!

     

    It was wonderful to see YGG Pontybrenin's Pablo Picassos (Mrs Fewings, Miss White & Miss Rhys' classes) selling their masterpieces at today's Art Gallery. Amazing!  (12/5/17)

     

  • Ymweliad 'The Owl Sanctuary' â Blwyddyn 1 / The Owl Sanctuary's visit to Year 1

    Thu 11 May 2017

    Hyfryd oedd croesawu 'The Owl Sanctuary' i'r ysgol heddiw i drafod y gwaith pwysig maen nhw'n gwneud yn achub tylluanod sydd wedi cael eu camdrin ac i ryngweithio gyda'r creaduriaid gosgeiddig hyn. Diolch yn fawr iawn!

     

    It was wonderful welcoming 'The Owl Sanctuary' to school today to discuss the important work they do in rescuing neglected and mistreated owl and to have the opportunity to interact with these graceful creatures. Diolch yn fawr iawn! (11/5/17)  

  • Adnewyddu Toiledau Bechgyn CA2 / KS2 Boys' Toilet Makeover

    Thu 04 May 2017
    Toiledau Bechgyn CA2 wedi cael bach o adnewyddiad yn dilyn sylwadau cenfigennus am doiledau newydd Merched CA2. Mae pawb yn hapus nawr!

     

    The KS2 Boys' toilets has had a bit of a makeover following envious looks in the direction of the newly refurbished KS2 Girls' toilets. Everybody's happy now! (4/5/17)

  • Diwrnod Cynnal a Chadw / School Maintenance Day

    Sat 29 Apr 2017

    Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfranodd at lwyddiant ein Diwrnod Cynnal a Chadw heddiw. Daeth dros 30 o rieni a bron i 20 aelod o staff i'r ysgol (tair gwaith cymaint a gefnogodd Diwrnod Cynnal a Chadw Tymor yr Hydref) i beintio, plannu, brwsio a thacluso'r safle, gan adael yr ysgol yn edrych yn fendigedig. Rydym wir yn gwerthfawrogi'r holl waith, amser ac ymdrech mae aelodau teulu YGG Pontybrenin yn buddsoddi yn yr ysgol ac yn gwybod y bydd y plant wrth eu bodd pan ddychwelwn nhw i'r ysgol ar Ddydd Mawrth. Diolch o galon i chi gyd unwaith eto.   

     

    A great big thank you to everyone who helped make today's School Maintenance Day such a success. Over 30 parents and almost 20 members of staff (three times the number that supported our Autumn Term Maintenance Day!) came along and painted, planted, brushed and tidied the school, leaving it looking tip top. We certainly appreciate all the hard work, time and effort that the YGG Pontybrenin family puts into the school and know that the children will be thrilled when they return to school on Tuesday. Thank you all once again. (29/4/17)

  • Band Pres Heddlu De Cymru / South Wales Police Band

    Fri 28 Apr 2017

    Diolch i Fand Pres Heddlu De Cymru am ein diddanu ni heddiw gyda thrawsdoriad o gerddoriaeth poblogaidd ac am ein dysgu ni am yr ystod o offerynnau pres sydd i'w clywed mewn cerddorfa.

     

    Thank you to the South Wales Police Band for entertaining us today with a variety of popular music and for teaching us all about the range of brass instruments that can be heard in an orchestra. (28/4/17)

  • Gorymdaith Bonedau Pasg / Easter Bonnet Parade

    Mon 24 Apr 2017

    Am ddisgyblion creadigol! Hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn gwisgo'u bonedau Pasg yn ein gorymdaith heddiw. Roedd ystod arbennig o fonedau rhyfeddol i'w gweld. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan.   

     

    What creative pupils we have! It was wonderful to see so many children wearing their Easter bonnets in our parade today. The creativity on display was amazing, with a wide variety of weird and wonderful creations. Congratulations to everyone who took part. (24/4/17) 

  • Noson Llythrennedd a Rhifedd / Literacy & Numeracy Evening

    Thu 06 Apr 2017

    Roedd yr ysgol dan ei sang heno wrth i bron 40 o rieni a gofalwyr fynychu ein Noson Llythrennedd a Rhifedd. Buddiol iawn oedd y noson, gyda nifer o strategaethau defnyddiol yn cael eu rhannu. Diolch yn fawr iawn i'r staff am eu gwaith yn paratoi'r noson ac i'r rhieni am eu cefnogaeth parhaus.

     

    It was standing room only today as almost 40 parents and carers attended our Literacy & Numeracy Evening. Everyone agreed that the event was worthwhile, with many useful strategies being shared. A big thank you to the staff for their hard work in preparing the event and to parents for their continuing support.  (6/4/17)

  • Sboncio Noddedig / Sponsored Bounce

    Tue 04 Apr 2017

    Diolch yn fawr iawn i bawb am eich rhoddion hael tuag at Sboncio Noddedig heddiw. Codwyd £3780, gyda'r cyfanswm yn cael ei rhannu rhwng 'Follow your Dreams' ac Ysgol Gymraeg Pontybrenin. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau i godi arian yn ddiweddar, gyda phob un yn cael ei gefnogi'n dda, felly mae'r cyfanswn a godwyd yn anhygoel. Hoffwn ddiolch hefyd i deulu'r Holmes an drefnu'r diwrnod ac am ddefnydd caredig eu trampolinau. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    A huge thank you to everyone for your generous sponsorship of today's Sponsored Bounce event. We raised an incredible £3780, which will be shared equally between 'Follow your Dreams' and Ysgol Gymraeg Pontybrenin. A number of fundraisers have been held recently, all of which have been well supported, so to raise such a large sum of money really is fantastic. I'd also like to thank the Holmes family for organising the event and for the kind use of their trampolines - it all worked like a clock! Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

  • Eisteddfod Ddawns yr Urdd / Urdd Dance Eisteddfod

    Wed 29 Mar 2017

    Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion ein hysgol yn dawnsio yn Eisteddfod Ddawns yr Urdd yn YGG Gellionnen heddiw. Perfformiodd grŵp Dawnsio Gwerin Bl 3&4 a Bl 5&6 yn arbennig o dda, fel y gwnaeth Amelia gyda'i dawns Hip Hop unigol. Da iawn chi!  

     

    It was great to see so many of our pupils dancing at today's Urdd Dance Eisteddfod at YGG Gellionnen. Both the Year 3&4 and Year 5&6 Folk Dancing groups performed wonderfully well, as did Amelia with her energetic Hip Hop solo dance. Da iawn chi! (29/3/17)  

Top