Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Tenis bwrdd / Table tennis

    Mon 04 Jul 2022

    Diolch i Matthew Porter o Tenis Bwrdd Cymru am y sesiynau blasu tenis bwrdd heddiw. Mwynheodd pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2 y cyfle i ymarfer eu sgiliau a blasu'r camp hyn sydd yn hygyrch i bawb, gyda nifer yn dangos tueddfryd da am y gêm. 

     

    Thank you to Matthew Porter from Table Tennis Wales for today's table tennis taster sesions. Every pupil in Key Stage 2 enjoyed the opportunity to practice their skills and get a taste of this accessible sport, with more than a few showing a real aptitude for the game. (4/7/22)

  • Forces Fitness

    Mon 04 Jul 2022

    Hyfryd oedd cael gweithio gyda Forces Fitness heddiw fel rhan o Raglen Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg. Llwyddodd nifer o ddisgyblion Blwyddyn 3 & 4 weithio gyda'r tîm, gan ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm,  gwytnwch a datrys problemau mewn amgylchedd hwylus. Diolch @ForcesFitness am y cyfle arbennig hwn.

     

    It was wonderful having the opportunity to work with Forces Fitness today as part of a Supporting Service Children in Education Programme. A number of our Year 3 & 4 pupils had the opportunity to work with the team, developing their teamwork, resilience and problem solving skills in a fun environment. Thank you @ForcesFitness for the fantastic opportunity. Diolch! (4/7/22)

  • Disgos yr Haf / Summer Discos

    Wed 29 Jun 2022

    Yn dilyn absenoldeb o 2 flynedd oherwydd y pandemig, hyfryd oedd gweld neuadd yr ysgol dan ei sang unwaith yn rhagor, gyda disgyblion, rhieni a staff yn dawnsio yn ein disgos heddiw. Diolch yn fawr unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin am eu gwaith paratoi ac ar y noson.  

     

    Following an absence of 2 years due to the pandemic, it was wonderful to see the school hall full of enthusiastic pupils, parents and staff dancing away to some classic tunes at today's discos. A big thank you to all the 'Friends of YGG Pontybrenin' volunteers for their work beforehand and on the evening. Diolch yn fawr iawn. (29/6/22)

  • Mabolgampau / Sports Days

    Wed 22 Jun 2022

    Gyda'r haul yn gwenu arnynt, dathlodd plant y Derbyn eu Mabolgampau heddiw o flaen torf o gefnogwyr brwd ar gae yr ysgol. Hyfryd oedd gweld pob plentyn yn cymryd rhan ac yn rhoi o'u gorau glas a braf oedd cael croesawu nol cynulleidfa am y tro cyntaf mewn 2 flynedd. 

     

    With the sun shining brightly, our Reception pupils celebrated their Sports Day today in front of a packed audience of family and friends on the school field. It was wonderful to see every pupil taking part and giving 100% effort, as it was having an audience for the first time in 2 years.  (22/6/22)

  • Rownd Derfynol Cwis Llyfrau Cenedlaethol / National Book Quiz Finals

    Tue 21 Jun 2022

    Llongyfarchiadau mawr i Dîm Cwis Llyfrau Bl 3&4 am gynrychioli'r ysgol gyda chymaint o falchder yn rownd derfynol Cwis Llyfrau Cymru yn Aberystwyth heddiw. Trafododd y tîm eu llyfr dewisol gydag aeddfedrwydd yn ogystal â pherfformio eu cyflwyniad byr yn hyderus iawn - roedd Miss Dark yn browd iawn. Os nad oedd hynny'n ddigon, galwon ni am bryd o fwyd yn McDonalds ar y ffordd adref. Da iawn chi! 

     

    Congratulations to our Year 3&4 Book Quiz Team on representing the school with such distinction at today's National Book Quiz Finals in Aberystwyth. The team discussed their chosen book with maturity and gave a polished performance in their short dramatic presentation, both of which made Miss Dark very proud. Just when they thought the day couldn't get any better, we called for a McDonalds on the way home! Well done team! (21/6/22)

  • Proms Lleisiol Clwstwr Gwyr / Gwyr Cluster Vocal Proms

    Mon 20 Jun 2022

    Braf oedd gweld a chlywed perfformiad arbennig gan ddisgyblion Bl 6 ysgolion cymuned Ysgol Gyfun Gwyr 

    yn y proms lleisiol heno. Gyda champfa llawn rhieni a ffrindiau balch iawn, cafon ni wledd o ganu, gyda phob disgybl yn mwynhau'r profiad a'r cyfle i gymdeithasu â'u cyfoedion o ysgolion eraill.

     

    It was great to see and hear such a wonderful performance by Year 6 pupils from the Ysgol Gyfun Gwyr cluster schools at this evening's vocal proms. With the gymnasium full of proud parents and friends, we were treated to a variety of school favourites, with all pupils enjoying the experience and benefitting from the opportunity to socialise with their peers from other schools.  (20/6/22)   

     

  • Wythnos 'Dathlu fy Ngwaith' / 'Celebrating my Work' Week

    Wed 15 Jun 2022

    Braf oedd gweld cymaint o rieni yn mynychu'r diwrnodau 'Dathlu fy Ngwaith' yr wythnos hon. Am y tro cyntaf ers dros dwy flynedd, mwynheoedd y plant y cyfle i arddangos eu gwaith gorau ac i ddathlu eu llwyddiannau gyda'u rhieni / gofalwyr. 

     

    It was great to see so many parents at this week's 'Celebrating My Work' days. For the first time in over 2 years, the children thoroughly enjoyed the opportunity to show their parents / guardians their best work and to celebrate their achievements. (15/6/22) 

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod

    Mon 30 May 2022

    Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Nimbych. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Whitsun week saw a number of our pupils representing West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Denbigh. Everyone enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each pupil gave of his / her very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (30/5/22)

  • Wythnos 'Dathlu fy Sgiliau' y Derbyn / Reception's 'Celebrating my Skills' Day

    Tue 24 May 2022

    Bu diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' y dosbarthiadau Derbyn yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni, yn dilyn 2 flynedd hebddynt, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau. Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our Reception classes 'Celebrating my Skills' days proved very successful yet again this year, following a 2 year hiatus, with a large number of parents and grandparents attending. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents / grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (24/5/22)

  • Gwyl Rygbi Ysgolion Lleol / Local Schools Rugby Festival

    Fri 13 May 2022

    Hyfryd oedd cael chwarae rygbi yn erbyn hen ffrindiau heddiw wrth i nifer o ysgolion lleol ddod ynghyd i ddangos pa mor dalentog mae ein disgyblion. Roedd safon y chwarae yn dda iawn, gydag Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn ennill pob gem tra'n sgorio nifer o geisiau hyfryd. Edrychwn ymlaen at yr ŵyl nesaf ymhen rhai wythnosau.

     

    It was wonderful having the opportunity to play rugby against old friends today as a number of local teams came together to showcase their talented players. The standard of play was very good, with Ysgol Gymraeg Pontybrenin winning all our games whilst scoring some fantastic tries.  We look forward to the next festival in the coming weeks. (13/5/22)  

Top