Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning
Fri 27 Sep 2019Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £509 i’r elusen arbennig hon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was very well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £509 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn! (27/9/19)
-
Llwyddiant Her Ddarllen yr Haf / Summer Reading Challenge success
Fri 20 Sep 2019Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Pontybrenin ar ennill 'Her Ddarllen yr Haf' yn Llyfrgell Gorseinon. Gyda 6 ysgol lleol yn cystadlu, bwriad yr her oedd annog cymaint o blant a phosib i ddarllen o leiaf 6 llyfr dros gwyliau'r haf. O'r 84 disgybl ymrwymodd â'r her i gychwyn, llwyddodd 33 ohonynt i gwblhau'r her, dwbl ein gwrthwynebwyr agosaf felly da iawn chi!
Congratulations to Ysgol Gymraeg Pontybrenin on winning Gorseinon Library's 'Summer Reading Challenge'. With 6 local schools competing, the aim of the challenge was to encourage as many children as possible to read at least 6 books over the summer holiday. Of the 84 pupils who signed up, 33 completed the challenge which was twice as much as our nearest challengers. Da iawn chi! (20/9/19)
-
Blwyddyn 3 yn ymaelodi a Llyfrgell Gorseinon / Year 3 registering with Gorseinon Library
Tue 17 Sep 2019Mae pob disgybl yng CA2 yn cael y cyfle i ymweld â Llyfrgell Gorseinon yn fisol er mwyn manteisio ar yr amrywiaeth hyfryd o lyfrau sydd ar gynnig iddynt. Heddiw, tro disgyblion Blwyddyn 3 oedd hi i gerdded i'r llyfrgell ac ymaelodi, gyda phawb yn edrych ymlaen at benthyg eu hoff lyfrau am y tro cyntaf. Gyda phob blwyddyn ysgol yng CA2 yn cerdded i'r llyfrgell pob 4 wythnos, yr unig amod ar y plant yw eu bod nhw'n gofalu am y llyfrau ac yn eu dychwelyd nhw i'r llyfrgell ar ôl eu darllen.
Every pupil in KS2 has the opportunity to visit Gorseinon Library on a monthly basis and can take full advantage of the wonderful selection of books they have on offer. Today it was the turn of our Year 3 pupils to walk to the library and enrol as new members, with everyone looking forward to borrowing their favourite books for the first time. Every year group in KS2 walks to the library once every 4 weeks and all we ask is that pupils keep the library's books safe and in good condition and that they're returned promptly after reading. (17/9/19).
-
Ymweliad Blwyddyn 5 i Gaerdydd - Diwrnod 3 / Year 5’s visit to Cardiff - Day 3
Wed 15 May 2019Manteisio ar y tywydd ym Mharc Margam. Joio!
Taking full advantage of the wonderful weather in Margam Park. Joio!
-
Ymweliad Blwyddyn 5 i Gaerdydd - Diwrnod 2 / Year 5's visit to Cardiff - Day 2
Tue 14 May 2019Diwrnod prysur arall heddiw, gydag ymweliad â Stadiwm y Principality, taith o gwmpas y bae ar y bws dŵr ac ymweld â’r Senedd ymysg yr uchafbwyntiau. Ymlaen yn awr i’r disgo!
Another very busy day today, with the visit to the Principality Stadium, a tour of the bay in a water bus and visiting the Senedd amongst the highlights. On now to the disco! (14/5/19)
-
Ymweliad Blwyddyn 5 i Gaerdydd - Diwrnod 1 / Year 5's visit to Cardiff - Day 1
Tue 14 May 2019Diwrnod cyntaf cyffrous iawn yng Nghaerdydd, gydag ymweliad Pwll Mawr, Blaenafon, ymweliad Canolfan Mileniwm Caerdydd a'r Bowlio Deg. Plant wedi blino'n lan neithiwr a phawb wedi cysgu'n dda dros nos. Diwrnod prysur arall o'u blaenau heddiw.
A very busy first day in Cardiff Bay yesterday, with the vist to Big Pit, Blaenavon, a visit to the Millenium Centre and Ten Pin Bowling. The children were shattered last night and everyone slept well. Another busy day ahead today. (14/5/19)
-
Gorymdaith Bonedau Pasg / Easter Bonnet Parade
Thu 11 Apr 2019Am ddisgyblion creadigol! Hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn gwisgo'u bonedau Pasg yn ein gorymdaith heddiw. Roedd ystod arbennig o fonedau rhyfeddol i'w gweld. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan.
What creative pupils we have! It was wonderful to see so many children wearing their Easter bonnets in our parade today. The creativity on display was amazing, with a wide variety of weird and wonderful creations. Congratulations to everyone who took part. (11/4/19)
-
Sboncio Noddedig / Sponsored Bounce
Tue 09 Apr 2019Cafwyd diwrnod hyfryd yn yr ysgol heddiw wrth i ddisgyblion sboncio ar drampolinau er mwyn codi arian i'r ysgol ac i Ganolfan Gancr Maggie's yn Abertawe. Diolch yn fawr iawn i William a Simone Holmes am eu haelioni yn benthyca eu trampolinau unwaith eto eleni ac i holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi eu plant a'u wyrion. Er bod yr arian dal i ddod mewn, mae'r cyfanswm a godwyd hyd yn hyn yn £3700. Diolch yn fawr iawn!
.
A wonderful day was had by everyone today as our pupils bounced for charity, with all the money being shared between the school and Maggie's Cancer Centre in Swansea. A huge thank you to William and Simone Holmes for their generosity in donating their trampolines once again this year - we couldn't do it without you! Thank you also to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in sponsoring their children and grandchildren. Although the sponsor money is still being collected, as of this afternoon, we've collected a fantastic £3700. Diolch yn fawr iawn! (9/4/19)
-
Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd / Urdd Eisteddfod Success
Wed 03 Apr 2019Ar ol misoedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion a staff yr ysgol, hyfryd oedd blasu cymaint o lwyddiant yn Eisteddfodau Rhanbarthol yr Urdd dros y diwrnodau diwethaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r disgyblion am eu perfformiadau arbennig a charwn ddiolch hefyd i'r staff sydd wedi rhoi mor hael o'u hamser dros y misoedd diwethaf i baratoi y plant. Mae pob un ohonyn nhw yn haeddu pob canmoliaeth. Dyma i chi grynodeb o'r canlyniadau sydd yn cynnwys YGG Pontybrenin:
- Llefaru Unigol Bl 3&4 - Elin Owen - 1af
- Grwp Llefaru Bl 6 & Iau - 1af
- Unawd Telyn Bl 6 & Iau - Rhianwen Hopkin - 1af
- Unawd Bl 3&4 - Katie Gale - 2il
- Unawd Llinynnol Bl 6 & Iau - Owain Jenkins - 2il
- Parti Recorders - 2il
- Parti Unsain Bl 6 & Iau - 2il
- Ymgom Bl 6 & Iau - 3ydd
- Parti Deulais Bl 6 & Iau - 3ydd
- Grwp Dawnsio Gwerin - 3ydd
- Unawd Piano Bl 6 & Iau, Grace Humphreys - 3ydd
Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ym mis Mai - Ymlaen YGG Pontybrenin!
Months of hard work and application on the part of both pupils and staff has paid dividends over the past few days with very successful Urdd Regional Eisteddfods. I'd like to take this opportunity to thank every one of our pupils who gave great performances and are a credit to our school and to their parents. I'd also like to thank all the staff who have given so freely of their time of the past few months in preparing our pupils. They deserve all the success in the world. A brief summary of the results featuring YGG Pontybrenin:
- Yr 3&4 Individual Recitation - Elin Owen - 1st
- Yr 6 & Jnr Recitation Group - 1st
- Yr 6 & Jnr Harp Solo - Rhianwen Hopkin - 1st
- Yr 3&4 Solo - Katie Gale - 2nd
- Yr 6 & Jnr Strings Solo - Owain Jenkins - 2nd
- Yr 6 & Jnr Recorder Party - 2nd
- Yr 6 & Jnr Unison Party - 2nd
- Yr 6 & Jnr Drama Sketch - 3rd
- Yr 6 & Jnr Two Voice Party - 3rd
- Yr 6 & Jnr Folk Dancing Group - 3rd
- Yr 6 & Jnr Piano Solo - Grace Humphreys - 3rd
We now look forward to the Urdd National Eisteddfod in Cardiff in May - Ymlaen YGG Pontybrenin! (3/4/19)
-
Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth / Autism Awareness Day
Tue 02 Apr 2019Er mwyn codi ymwybyddiaeth awtistiaeth fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, cynhelir nifer o weithgareddau yn yr ysgol, gan gynnwys gwisgo dillad amryliw, cystadlu yng nghwis Ann Hegerty a chynllunio a chreu enfysau ein hunain. Mwynheodd pawb mas draw a dysgon ni lawer am yr anabledd datblygiadol hyn a sut mae'n effeithio ar gymaint o bobl.
In order to raise awareness of autism as part of Autism Awareness Week, we organised a number of activities in school, including dressing up in all the colours of the spectrum, competing against each other in Ann Hegerty's Quiz and designing our very own rainbows. We had a great time and learnt a lot about this developmental disability and how it affects people. (2/4/19)
