Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Pontybrenin ar ennill 'Her Ddarllen yr Haf' yn Llyfrgell Gorseinon. Gyda 6 ysgol lleol yn cystadlu, bwriad yr her oedd annog cymaint o blant a phosib i ddarllen o leiaf 6 llyfr dros gwyliau'r haf. O'r 84 disgybl ymrwymodd â'r her i gychwyn, llwyddodd 33 ohonynt i gwblhau'r her, dwbl ein gwrthwynebwyr agosaf felly da iawn chi!
Congratulations to Ysgol Gymraeg Pontybrenin on winning Gorseinon Library's 'Summer Reading Challenge'. With 6 local schools competing, the aim of the challenge was to encourage as many children as possible to read at least 6 books over the summer holiday. Of the 84 pupils who signed up, 33 completed the challenge which was twice as much as our nearest challengers. Da iawn chi! (20/9/19)