Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd / Urdd Eisteddfod Success

Ar ol misoedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion a staff yr ysgol, hyfryd oedd blasu cymaint o lwyddiant yn Eisteddfodau Rhanbarthol yr Urdd dros y diwrnodau diwethaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r disgyblion am eu perfformiadau arbennig  a charwn ddiolch hefyd i'r staff sydd wedi rhoi mor hael o'u hamser dros y misoedd diwethaf i baratoi y plant. Mae pob un ohonyn nhw yn haeddu pob canmoliaeth. Dyma i chi grynodeb o'r canlyniadau sydd yn cynnwys YGG Pontybrenin:

 

  • Llefaru Unigol Bl 3&4 - Elin Owen - 1af
  • Grwp Llefaru Bl 6 & Iau - 1af
  • Unawd Telyn Bl 6 & Iau - Rhianwen Hopkin - 1af
  • Unawd Bl 3&4 - Katie Gale - 2il
  • Unawd Llinynnol Bl 6 & Iau - Owain Jenkins - 2il
  • Parti Recorders - 2il
  • Parti Unsain Bl 6 & Iau - 2il
  • Ymgom Bl 6 & Iau - 3ydd
  • Parti Deulais Bl 6 & Iau - 3ydd
  • Grwp Dawnsio Gwerin - 3ydd
  • Unawd Piano Bl 6 & Iau, Grace Humphreys - 3ydd

 

Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ym mis Mai - Ymlaen YGG Pontybrenin!

 

Months of hard work and application on the part of both pupils and staff has paid dividends over the past few days with very successful Urdd Regional Eisteddfods. I'd like to take this opportunity to thank every one of our pupils who gave great performances and are a credit to our school and to their parents. I'd also like to thank all the staff who have given so freely of their time of the past few months in preparing our pupils. They deserve all the success in the world. A brief summary of the results featuring YGG Pontybrenin:

 

  • Yr 3&4 Individual Recitation - Elin Owen - 1st
  • Yr 6 & Jnr Recitation Group - 1st
  • Yr 6 & Jnr Harp Solo - Rhianwen Hopkin - 1st
  • Yr 3&4 Solo - Katie Gale - 2nd
  • Yr 6 & Jnr Strings Solo - Owain Jenkins - 2nd
  • Yr 6 & Jnr Recorder Party - 2nd
  • Yr 6 & Jnr Unison Party - 2nd
  • Yr 6 & Jnr Drama Sketch - 3rd
  • Yr 6 & Jnr Two Voice Party - 3rd
  • Yr 6 & Jnr Folk Dancing Group - 3rd
  • Yr 6 & Jnr Piano Solo - Grace Humphreys - 3rd

 

We now look forward to the Urdd National Eisteddfod in Cardiff in May - Ymlaen YGG Pontybrenin!  (3/4/19)

Top