Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Diwrnod Coffa Holocost / Holocaust Memorial Day
Fri 27 Jan 2017Cynhelir gwasanaeth teimladwy iawn i nodi Diwrnod Coffa Holocost 2017 yn Ysgol Esgob Gore heddiw. Cafwyd cyfraniad arbenig gan ddisgyblion Blwyddyn 6 i'r gwasanaeth.
A very poignant service was held at Bishop Gore Comprehensive today to mark Holocaust Memorial Day 2017. Our Year 6 were a credit to the school with their contribution to the service. (27/1/17)
-
Lawnsio ein Siarter Iaith / Launching our Language Charter
Thu 26 Jan 2017Cafon ni ddiwrnod i'r brenin heddiw yng nghwmni Martin Geraint, wrth i ni lawnsio ein Siarter Iaith. Bwriad y Siarter yw annog ein disgyblion i siarad mwy o Gymraeg yn gymdeithasol ac o gwmpas yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i'n Llysgenhadon Iaith am ddewis targedau'r Siarter
We had a fantastic time in the company of Martin Geraint today as he helped us launch our Language Charter. The aim of the Charter is to encourage more of our pupils to speak Welsh socially, in and around the school. Thank you to our Language Ambassadors for choosing the Charter's targets. (26/1/17)
-
Gwneud cysylltiadau newydd / Making new links
Tue 24 Jan 2017Gydag Ysgol Pontybrenin ac Ysgol Gymraeg Pontybrenin mor agos i'w gilydd yn ddaearyddol, mae'n naturiol ein bod ni'n dod ynghŷd ar adegau i ddatblygu ein sgiliau ar y cyd a meithrin perthnasau newydd yn y broses. Dyna yn union beth gwnaeth disgyblion Blwyddyn 6 heddiw, gyda'r nod o ddechrau cyfarfodydd rheolaidd rhwng y ddwy ysgol.
With Ysgol Pontybrenin and Ysgol Gymraeg Pontybrenin being such close neighbours, it makes sense that both schools come together on occasions to jointly develop our skills and form new friendships in the process. That's exactly what Year 6 pupils did today, with a view to starting regular meetings between the schools. (24/1/17)
-
Llwyddiant Nofio / Swimming Success
Sat 21 Jan 2017Llongyfarchiadau mawr i dîm nofio yr ysgol (Betsi, Jake, Jackson, Jack a Iolo o flwyddyn 4 a Seren, Holli, Milly and Freya o flwyddyn 6) am gynrychioli'r ysgol gyda chymaint o falchder heddiw yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Rhoddodd pawb o'u gorau a chafwyd diwrnod i'r brenin wrth herio rhai o nofwyr gorau Cymru. Profodd tîm Cyfnewid Merched Blwyddyn 6 pa mor dalentog yw plant Ysgol Gymraeg Pontybrenin trwy gipio'r fedal arian yn y ras Gyfnewid Rhydd a'r fedal efydd yn y ras Gyfnewid Amrywiol. Camp arbennig ferched! Pen taith - Budapest, Los Angeles neu Baris ym 2024!
Diolch yn fawr iawn hefyd i Mr Sterl am ei gefnogaeth heddiw ac am drefnu a pharatoi'r tîm mor dda.
Congratulations to the school's swimming team (Betsi, Jake, Jackson, Jack and Iolo from Year 4 and Seren, Holli, Milly and Freya from Year 6) for proudly representing the school at today's Urdd National Swimming Gala in Cardiff. Everyone gave of their very best and thoroughly enjoyed the challenge of competing against some of the best swimmers in Wales. Our Year 6 Girls' Relay team in particular showed that we have some of the most talented pupils in Wales at Ysgol Gymraeg Pontybrenin by winning the silver medal in the Freestyle Relay and the bronze medal in the Medley Relay. An outstanding achievement girls! Next stop - Budapest, Los Angeles or Paris in 2024!
A big thank you also to Mr Sterl for his support today and for preparing and organising the team so well. Diolch Mr Sterl!
-
Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree
Tue 13 Dec 2016Hyfryd oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin yn mwynhau eu hunain yn ein Gwasanaeth Carolau neithiwr. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, codwyd £1420. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
It was great to see so many members of the YGG Pontybrenin family present at last night's Carol Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of last night's raffle ticket sales and the ticket sales over the past three weeks, we raised an amazing £1420. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (13/12/16)
-
Gweithdai NSPCC Workshops
Wed 07 Dec 2016Diolch yn fawr iawn i Glenys o'r NSPCC am addysgu ni sut i gadw'n ddiogel heddiw. Clywodd pawb negeseuon pwysig yn y gwasanaeth yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai dosbarth.
Thank you to Glenys from the NSPCC for teaching us how to stay safe today. All our pupils heard some very important messages in the assembly and also took part in individual class workshops. (7/12/16)
-
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Wed 30 Nov 2016Hyfryd oedd gweld cymaint o deulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn cefnogi Ffair Nadolig 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' neithiwr. Gyda chymaint o stondinau a gweithgareddau i fwynhau, doedd hi ddim yn syndod ein bod ni wedi codi £1800. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth hael ac i aelodau'r 'Ffrindiau' yn arbennig am eu gwaith di-flino ar y noson a dros yr wythnosau diwethaf. Ymlaen Pontybrenin!
It was wonderful to see so many of the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family supporting last night's 'Friends of YGG Pontybrenin' Christmas Fair. With so many stalls and activities to enjoy, it's no wonder we raised an incredible £1800. Thank you to everyone for your generosity in supporting us and in particular, the members of the 'Friends' who gave so freely of their time on the evening and in the weeks leading up to the Fair. Ymlaen Pontybrenin! (30/11/16)
-
Aled Hughes & Phlant Mewn Angen / Aled Hughes & Children in Need
Mon 14 Nov 2016Pob lwc i Aled Hughes o Radio Cymru gyda'i her o seiclo'r 180 milltir o Abertawe i Fangor er mwyn codi arian i Blant Mewn Angen. Cafodd ei sbarduno ar ei ffordd gan rai o ddisgyblion Blwyddyn 6!
Best of luck to Aled Hughes of Radio Cymru with his challenge of cycling the 180 miles from Swansea to Bangor for Children in Need. Some of our Year 6 pupils cheered him on his way! (14/11/16)
-
Disgos CRA / PTA Discos
Fri 11 Nov 2016Waw! Yn dilyn cefnogaeth hael teulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin, llwyddodd y CRA godi £1249 gyda disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl wirfoddolwyr hynny a fu'n helpu am roddi mor hael o'u hamser a'u hymdrechion i sicrhau llwyddiant y disgos. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sydd wedi cael eu clustnodi gan y Cyngor Ysgol, megis adnewyddu toiledau'r Adran Iau, marcio'r iard ac adnoddau chwarae newydd i'w defnyddio amser egwyl. Diolch i chi gyd unwaith eto!
Waw! Following generous support from the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family once again, the PTA raised an amazing £1249 following this week's discos. Can I thank all those volunteers who gave so freely of their time and effort to make the discos such a success. The money raised will be put towards projects earmarked by the School Council, particularly the refurbishment of the Junior's toilets, yard markings and new play equipment for break times. Thank you all once again! (11/11/16)
-
Ymweliad y Frenhines Kevania! / Queen Kevania's Visit
Mon 07 Nov 2016Diolch i'r Frenhines Kevania am ymweld â'r ysgol i ddiddanu yr Adran Iau gyda'i helyntion doniol hi.
Thank you to Queen Kevania for visiting the school and entertaining the Junior pupils with her comical tales. (4/11/16)
