Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning

    Fri 29 Sep 2023

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £690 i’r elusen arbennig hon.

     

    A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £690 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn!  (29/9/23)

  • Ymweliad gan PC George / Visit by PC George

    Wed 27 Sep 2023

    Hyfryd oedd croesawu PC George i'r ysgol am y tro cyntaf heddiw wrth iddo rhannu cyflwyniad ar 'Beryglon Dieithriaid gyda disgyblion Blwyddyn 1. Bydd PC George yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd dros y flwyddyn nesaf wrth iddo gynnal cyfres o weithdai gyda disgyblion yr ysgol ar wahanol agweddau o ddiogelwch.

     

    It was wonderful to welcome PC George to the school for the first time today as he shared a presentation with our Year 1 pupils on 'Stranger Danger'. PC George will be visiting the school on a regular basis throughout the year as he delivers a series of workshops on various aspects of safety. (27/9/23)

  • Penblwydd Hapus Ysgol Gymraeg Pontybrenin! / Happy Birthday Ysgol Gymraeg Pontybrenin

    Thu 20 Jul 2023

    Gyda'r ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 70 oed eleni, cynhelir nifer o ddigwyddiadau i nodi'r achlysur arbennig hwn. Heb amheuaeth y mwyaf cyffrous o'r rhain oedd y parti penblwydd mawr a gynhelir ar iard yr ysgol heddiw, gyda bwydydd blasus, adloniant gan y band Cymraeg Dros Dro ac ymweliad gan Mr Urdd. Am ddiwrnod i'w gofio! 

     

    With the school celebrating her 70th birthday this year, a number of events have been held to mark this wonderful milestone. The most exciting for the children was the big birthday party we held on the yard today, with tasty food, entertainment by the fantastic Welsh band Dros Dro and a visit from Mr Urdd. What an unforgettable day! (20/7/23)

  • Disgo Pwer Pedal /Pedal Powered Disco

    Fri 14 Jul 2023

    Diolch i Aled o Ynni Da am arwain disgo hwylus ac egniol heddiw, a'r cyfan wedi ei bweru gan ymdrechion ein disgyblion ar eu beiciau. Yn ogystal â mwynhau'r gerddoriaeth, dysgon nhw i werthfawrogi cymaint o egni sydd ei angen i bweru disco. 

     

    Thanks to Aled from Ynni Da for leading a fun and energetic Welsh language disco today, all powered by the efforts of our pupils on their bikes. Not only did our pupils enjoy the music, they also learnt to appreciate how much energy is required to power a disco. (14/7/23)

  • Taith Breswyl i Ganolfan yr Urdd, Caerdydd / Residential trip to the Urdd Centre, Cardiff

    Fri 14 Jul 2023

    Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 amser arbennig yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, gydag ymweliad i Bwll Mawr ym Mlaenafon, Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd, y Bathdy Brenhinol, taith o’r bae mewn tacsi dŵr, a bowlio deg. Dychwelodd pawb i’r ysgol wedi blino'n lan ond gydag atgofion bythgofiadwy o’u hantur.

     

    Our Year 5 pupils had an amazing time at the Urdd Centre in Cardiff, with visits to Big Pit in Blaenavon,  the Principality Stadium, Cardiff Castle, the Royal Mint, a tour of the bay in a water taxi and ten pin bowling. Everyone was absolutely shattered on their return to school but with memories that will last a lifetime. (14/7/23) 

  • Gig Urdd Gorllewin Morgannwg

    Tue 04 Jul 2023

    Joiodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 mas draw yn Gig Urdd Gorllewin Morgannwg heddiw yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera. Roedd Candelas yn arbennig a braf oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn dawnsio ac yn canu i un o fandiau mwyaf Cymru.

     

    Our Year 4, 5 & 6 pupils had a blast at today's West Glamorgan Urdd Welsh language Gig at Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera. Candelas were amazing and it was fantastic to see so many pupils dancing and singing to one of the biggest bands in Wales. (4/7/23) 

  • Diwrnod Cynnal a Chadw / Maintenance Day

    Sat 29 Apr 2023

    Am ymateb i’n Diwrnod Cynnal a Chadw ar Ddydd Sadwrn! Gyda 26 oedolyn a bron cymaint o blant yn mynychu, roedd y digwyddiad yn lwyddiant ysgubol. Gyda digon o de, coffi, ‘squash’ a bisgedi i gadw pawb yn effro, llwyddon nhw gyflawni cymaint, ac mae tir yr ysgol llawer mwy taclus a lliwgar o ganlyniad. Gwerthfawrogir yn fawr eu parodrwydd i roi mor hael o’u hamser.

    Mae’n fwriad trefnu Diwrnod Cynnal a Chadw arall ar gyfer Dydd Sadwrn, Gorffennaf 1af, a mawr obeithiaf y byddwch yn gallu ein cefnogi ni gan fod cymaint o waith dal i’w wneud. Diolch yn fawr iawn!

     

    What an incredible response we had to our Maintenance Day on Saturday, with 26 adults and almost as many children attending, making the event an overwhelming success.  With plenty of tea, coffee, squash and biscuits keeping them energised, they succeeded in accomplishing a great deal, with the school’s grounds looking far tidier and more colourful as a result. Their generosity in giving so freely of their time is very much appreciated.

    We intend to arrange another Maintenance Day on Saturday, July 1st and hope that you can come along and support us as there remains plenty of work to do. Diolch yn fawr iawn! (29/4/23)  

     

  • Disgos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos

    Mon 30 Jan 2023

    Diolch i bawb am gefnogi ein disgos Santes Dwynwen yr wythnos hon, yn enwedig aelodau' Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith caled o flaen llaw ac ar y noson. Diolchgar iawn! Cyfanswm i’w gyhoeddi maes o law.

     

    Thank you to everyone who supported this week’s St Dwynwen’s discos, especially the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard beforehand and on both evenings. We’re incredibly grateful! Total raised will be announced soon. (30/1/23)

  • DJs Radio Pontybrenin yn ymweld a BBC Cymru / YGG Pontybrenin Radio DJs visiting BBC Wales

    Thu 26 Jan 2023

    Mwynheodd ein DJs Radio mas draw heddiw yn ystod eu hymweliad â stiwdios newydd BBC Cymru yng Nghaerdydd. Yn ogystal â dysgu sut mae'r cyfryngau yn gweithio tu ôl i'r llen, cafon nhw gyfle i gwrdd â Garry Owen a gweld Wynne Evans yn cyflwyno ei rhaglen radio yn fyw. Efallai bod newyddiadurwyr a gohebwyr y dyfodol yn ein plith?

     

    Our Radio DJs had a fantastic time today during their tour of the new BBC Wales studios in Cardiff. In addition to learning how the media works behind the scenes, they also had an opportunity to meet with Garry Owen and saw Wynne Evans presenting his radio show live. Perhaps we have the next generation of reporters and presenters in our midst?

  • Cyngor Ysgol yn ymweld a'r Senedd / School Council visiting the Senedd

    Wed 25 Jan 2023

    Cafodd aelodau ein Cyngor Ysgol (ac etholwyr y dyfodol) diwrnod cynhyrchiol iawn yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, wrth ddysgu am ddemocratiaeth a'u rol nhw yn lleisio'u barn a gwneud penderfyniadau. Bydd y sgiliau hyn yn ddefnyddiol iawn wrth iddyn nhw wrando ar farn eu cyfoedion er mwyn parhau i wella'r ysgol.

     

    Our School Council (and future electorate) had a really informative day at the Senedd in Cardiff Bay this morning, learning all about democracy and how they have a voice in the decision making process. These skills will serve them well as they listen to the views of their peers in order to continue to improve the school. (25/1/23)

     

Top