Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Ymweliad misol a Llyfrgell Gorseinon / Monthly visit to Gorseinon Library

    Fri 03 Mar 2017

    Er gwaethaf y tywydd garw ar ein taith, cafodd Blwyddyn 4&5 amser hyfryd yn ystod eu hymweliad misol a Llyfrgell Gorseinon. Gyda chymaint o ddewis ar y silffoedd, y broblem fwyaf oedd penderfynu pa lyfrau i fenthyg.

     

    Despite the miserable weather along the way, Year 4&5 had a great time during their monthly visit to Gorseinon Library. With so many books on offer, the biggest problem was deciding which books to borrow. (3/3/17) 

  • Stori, Llaeth a Bisgedi / Story, Milk & Cookies

    Thu 02 Mar 2017

    Blasus iawn oedd ein hamser story heddiw wrth i ddisgyblion fwynhau llaeth a bisgedi tra bod yr athrawon yn darllen rhai o'u hoff lyfrau. Diolch yn fawr iawn i Morrisons Llanelli ac Asda Gorseinon am roddi 120 peint o laeth a 600 o fisgedi i'r achos. Rhan o'n dathliadau Wythnos y Llyfr.

     

    A very tasty story time was had by all pupils today as the staff read some of their favourite childhood stories whilst pupils enjoyed milk and cookies. A big thank you to Llanelli Morrisons and Asda Gorseinon for generously donating the 120 pints of milk and 600 biscuits. Part of our Book Week celebrations. (2/3/17) 

  • Dydd Gwyl Dewi / St David's Day

    Wed 01 Mar 2017

    Dathlwyd ein Cymreictod ar Ddydd Gŵyl Dewi unwaith eto eleni gyda'n  Eisteddfod Ysgol blynyddol. Hyfryd oedd gweld a chlywed cymaint o blant yn arddangos eu talentau, gyda chystadlu brwd ym mhob catagori. Roeddwn yn ffodus iawn i gael beirniaid mor ddeallus a pharod yn Mrs Margaret Williams a Mrs Catrin Stevens, aelodau o Gorff Llywodraethu yr ysgol, i ddewis enillwyr pob categori. Da iawn i bawb a gymerodd rhan.    

     

    We celebrated our patriotism on St David's Day yet again this year with our annual School Eisteddfod. It was wonderful to see and hear so many pupils displaying their talents, with a variety of competitions being hotly contested. Thankfully, we had two willing judges in Mrs Margaret Williams and Mrs Catrin Stevens, both members of the school Governing Body, to select the winners from each category. Well done to everyone who took part. (1/3/17)   

Top