Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Disgos Tymor yr Hydref / Autumn Term Discos
Mon 21 Oct 2024Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos dros y bythefnos ddiwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £962! Ymlaen Pontybrenin!
A big thank you to everyone for supporting our discos over the past fortnight. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £962! Ymlaen Pontybrenin! (21/10/24)
-
Cystadleuaeth Coginio yr Urdd / Urdd Cooking Competition
Fri 18 Oct 2024Hyfryd oedd gweld 'Masterchefs' y dyfodol ar waith heddiw wrth i nifer o ddisgyblion gystadlu yng nghystadleuaeth CogUrdd a PhobUrdd yr Urdd eleni, gyda 'wraps' a chacennau ar y fwydlen. Roedd y creadigrwydd a safon y paratoi a'r coginio yn wych a gallai'r bwydydd hyn fod wedi eu gwerthu mewn caffi neu archfarchnad lleol. Llongyfarchiadau mawr i Alana ar ennill y gystadleuaeth CogUrdd gyda'i 'wrap' ac i Ifan ar ennill y gystadleuaeth PobUrdd gyda'i gacennau. Da iawn chi a phob lwc yn y rownd nesaf.
It was wonderful seeing the next generation of 'Masterchefs' at work today as a number of our pupils competed in this year's Urdd CogUrdd and PobUrdd competitions, with wraps and cakes/muffins on the menu. The creativity and standard of food preparation and cooking was outstanding and would not have looked out of place in a cafe or on sale in a local supermarket. Congratulations to Alana on winning the CogUrdd competition with her wrap and to Ifan on his victorious cupcakes. Da iawn chi! Best of luck to them both in the next round. (18/10/24)
-
Taith Gerdded Noddedig / Sponsored Walk
Thu 17 Oct 2024Er gwaethaf y tywydd diflas, cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i ddisgyblion yr ysgol gerdded hyd at 5km o gwmpas ein cymuned er mwyn codi arian i'r ysgol ac i elusen Canolfan Gancr Maggie's yn Abertawe. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi'r ysgol a'r elusen arbennig hon. O ganlyniad i'ch caredigrwydd, codwyd swm arbennig o £5065! Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Despite the miserable weather, a wonderful day was had by everyone today as our pupils walked up to 5km within our local community for charity, with the money raised being shared equally between the school and Maggie's Cancer Centre in Swansea. A huge thank you to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in support of the school and this fantastic charity. Thanks to your generosity, we raised an amazing £5065! Diolch yn fawr iawn! (17/10/24)
-
Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning
Fri 27 Sep 2024Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £576 i’r elusen arbennig hon.
A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £576 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn! (27/9/24)
-
Diwrnod Cynnal a Chadw / Maintenance Day
Fri 27 Sep 2024Siomedig ar y cyfan oedd yr ymateb i’n Diwrnod Cynnal a Chadw ar Ddydd Sadwrn, gydag ond 11 oedolyn a 7 o blant yn mynychu. Fodd bynnag, gyda digon o de, coffi, ‘squash’ a bisgedi i gadw pawb yn effro, llwyddon nhw gyflawni cymaint, ac mae tir yr ysgol llawer mwy taclus o ganlyniad. Gwerthfawrogir yn fawr eu parodrwydd i roi mor hael o’u hamser. Diolch yn fawr iawn!
The response to our Maintenance Day on Saturday was relatively disappointing, with only 11 adults and 7 children attending. However, with plenty of tea, coffee, squash and biscuits keeping them energised, they succeeded in accomplishing a great deal, with the school’s grounds looking far tidier as a result. Their generosity in giving so freely of their time is very much appreciated. Diolch yn fawr iawn! (14/9/24)
-
Pêl droed Blwyddyn 6 v Staff / Year 6 v Staff Football
Wed 17 Jul 2024Yn dilyn cystadlu brwd ac egniol gan chwaraewyr ar y ddwy ochr, gorffenodd y gem bêl droed diwedd y flwyddyn rhwng Blwyddyn 6 a'r staff yn gyfartal, gyda sgôr o 6 - 6. Er eu bod nhw ar ei hol hi o 3 - 0 ar un adeg, daeth tîm y staff nol mewn iddi a llwyddon nhw ddal mlaen am gêm gyfartal yn diwedd.
Following some really passionate and energetic competition from both sides, today's end of year football match between Year 6 and the staff 'all stars' finished 6 - 6. Despite being 3 - 0 down at one point, the staff gradually got back into the match and despite being under the cosh toward the end, managed to hold on for a deserved draw. (17/7/24)
-
Taith Breswyl Blwyddyn 5 i Gaerdydd / Year 5’s Residential visit to Cardiff
Thu 11 Jul 2024Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 amser anhygoel yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, gydag ymweliad â Gerddi Soffia a stadiwm chriced Swalec, Castell Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Senedd, y Bathdy Brenhinol a thaith o’r bae mewn tacsi dŵr. Dychwelodd pawb i’r ysgol wedi blino'n lan ond gydag atgofion bythgofiadwy o’u hantur.
Our Year 5 pupils had an amazing time at the Urdd Centre in Cardiff, with visits to Sophia Gardens and the Swalec cricket stadium, Cardiff Castle, the National Museum of Wales, the Senedd, the Royal Mint and a tour of the bay in a water taxi. Everyone was absolutely shattered on their return to school but with memories that will last a lifetime. (11/7/24)
-
Parti Do Re Mi Canu yr Ysgol Waelod / Lower School Do Re Mi Canu Party
Wed 03 Jul 2024Hyfryd oedd croesawu Do Re Mi Canu i'r ysgol heddiw ar gyfer Jambori yr Haf y Derbyn a Blwyddyn 1&2. Joiodd y plant mas draw wrth ganu, dawnsio a chwerthin i ganeuon cyfarwydd ac anghyfarwydd.
What a joy it was to welcome Do Re Mi Canu to school today for the Reception and Years 1&2's Summer Jamboree. The children had a fantastic time singing, dancing and laughing to familiar and unfamiliar songs. (3/7/24)
-
Gig Urdd Gorllewin Morgannwg / West Glamorgan Urdd Gig
Tue 25 Jun 2024Joiodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 mas draw yn Gig Urdd Gorllewin Morgannwg heddiw yn Ysgol Gymraeg Tan y Lan. Roedd Dros Dro yn arbennig a braf oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn dawnsio ac yn canu i un o fandiau mwyaf cyffrous newydd Cymru.
Our Year 4, 5 & 6 pupils had a blast at today's West Glamorgan Urdd Welsh language Gig at Ysgol Gymraeg Tan y Lan. Dros Dro were amazing and it was fantastic to see so many pupils dancing and singing to one of Wales' most exciting new bands. (25/6/24)
-
Taith Breswyl Blwyddyn 6 i Langrannog / Year 6’s Residential vist to Llangrannog
Fri 21 Jun 2024Dros 3 diwrnod llawn antur, mae disgyblion Blwyddyn 6 y bump ysgol clwstwr wedi mwynhau mas draw tra'n mynychu Canolfan yr Urdd yn Llangrannog fel rhan o raglen pontion cynhwysfawr YG Gwyr. Roedd sgio, gwib-gartio, y rhaffau uchel, saethyddiaeth a gemau yn esiamplau o'r gweithgareddau buon nhw'n gwneud. Diolch yn fawr iawn i staff y gwersyll am y croeso cynnes unwaith eto eleni a diolch hefyd i holl staff yr ysgol am roi mor hael o'u hamser i arwain a goruchwylio'r plant.
Over 3 action packed days, Year 6 pupils from across all 5 cluster schools have had a great time this week at the Urdd Centre in Llangrannog as part of the comprehensive transition programme with YG Gwyr. Skiing, go-karting, high ropes, archery and multi-games being just some of the activities enjoyed. A big thank you to the staff at the centre for the warm welcome once again this year and to all the school staff who gave so generously of their time to lead the pupils. (21/6/24)
