Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Mabolgampau yr Ysgol Uwch / Upper School Sports Day
Tue 04 Jun 2024Er gwaethaf y tywydd diflas, cafon ni ddiwrnod mabolgampau llwyddiannus iawn gyda phob disgybl yn cymryd rhan ac yn cyfrannu at gyfanswm ei d/thim. Diolch yn fawr iawn i staff stadiwm athletau Prifysgol Abertawe am eu cefnogaeth ar y diwrnod ac i'r holl rhieni daeth i gefnogi.
Despite the miserable weather, we had a very successful sports day, with every pupil taking part and contributing to his/her team's total. A big thank you to Swansea University's athletics stadium staff for all their support on the day and to all the parents who came along to cheer. (4/6/24)
-
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod
Tue 28 May 2024Buodd dwy disgybl yn cynrychioli'r ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn ym Maldwyn. Manteisiodd Cadi a Sydney ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda'r ddwy yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
Whitsun week saw two of our pupils representing the school and West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Maldwyn. Both Cadi and Sydney enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each gave of their very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (28/5/24)
-
Ffair Wanwyn / Spring Fair
Sat 11 May 2024Yn dilyn diwrnod bendigedig, diolch i bawb am gefnogi’r Ffair Wanwyn heddi - plant, rhieni, staff ac yn arbennig aelodau’r 'Ffrindiau' am eu gwaith di-flino yn paratoi o flaen llaw, ar y diwrnod ac am dacluso ar ddiwedd y dydd. O ganlyniad i ymdrechion ac haelioni cymuned ein hysgol, codwyd swm arbennig o £2527!
Following a fantastic day, thank you to everyone who supported today’s Spring Fair - pupils, parents, staff and particularly the members of the 'Friends' for their tireless work before, during and after the event. As a result of the efforts and generosity of the school community, we raised a fantastic £2527! (11/5/24)
-
Diwrnod Cynnal a Chadw / Maintenance Day
Mon 22 Apr 2024Ceir ymateb da i’n Diwrnod Cynnal a Chadw ar Ddydd Sadwrn, gydag 17 oedolyn a 13 o blant yn mynychu. Gyda digon o de, coffi, ‘squash’ a bisgedi i gadw pawb yn effro, llwyddon nhw gyflawni cymaint, ac mae tir yr ysgol llawer mwy taclus a lliwgar o ganlyniad. Gwerthfawrogir yn fawr eu parodrwydd i roi mor hael o’u hamser. Diolch yn fawr iawn!
We had a good response to our Maintenance Day on Saturday, with 17 adults and 13 children attending. With plenty of tea, coffee, squash and biscuits keeping them energised, they succeeded in accomplishing a great deal, with the school’s grounds looking far tidier and more colourful as a result. Their generosity in giving so freely of their time is very much appreciated. Diolch yn fawr iawn! (22/4/24)
-
Buddugoliaeth Cystadleuaeth Minecraft / Minecraft Competition Success
Thu 21 Mar 2024Llongyfarchiadau mawr i Thomas, Jack, Mabon ac Evan ar ennill cystadleuaeth #How Green Was My Valley Minecraft. Diolch i Ryan o Aspire2Be am wobrwyo'r tîm buddugol gyda'u hanrhegion heddiw. Joion nhw mas draw!
Congratulations to Thomas, Jack, Mabon and Evan on winning the Minecraft #HowGreenWasMyValley competition. Thanks to Ryan from Aspire2Be for rewarding the winning team with their prizes. They had a blast competing! (21/3/24)
-
Diwrnod Syndrom Down / Down Syndrome Day
Thu 21 Mar 2024Mae'n Ddiwrnod Syndrom Down Rhyngwladol heddiw felly codon ni ymwybyddiaeth o'r syndrom gyda diwrnod 'Sanau Sbesial'.
Today is World Down Syndrome Day and we helped raise awareness of the syndrome with a 'Special Socks' day. (21/3/24)
-
Noson Sinema / Cinema Night
Tue 12 Mar 2024Hyfryd oedd gweld cymaint o gefnogaeth i'r Noson Sinema heno, gyda'r neuadd dan ei sang â phlant yn mwynhau popcorn a danteithion eraill tra'n gwylio ffilm gyda'u ffrindiau. O ganlyniad i ymdrechion aelodau y 'Ffrindiau', a diolch i haelioni a chefnogaeth cymuned yr ysgol, codwyd swm arbennig o £684.
It was wonderful seeing so much support for this evening's Cinema Night, with the school hall packed with pupils munching on popcorn and other sweet treats, whilst watching a film with their friends. Thanks to the efforts of the 'Friends' and the generosity and support of the school community, we raised a fantastic £684. (12/3/24)
-
Diwrnod y Llyfr / World Book Day
Thu 07 Mar 2024Yn ogystal a gwisgo lan fel ein hoff gymeriadau llenyddol, hyfryd oedd gallu croesawu cymaint o ffrindiau cymuned ein hysgol i ddarllen i’r plant, gan gynnwys enwogion y byd chwaraeon a’r arwyr sy’n ein helpu pob dydd. Diolch yn fawr iawn!
In addition to dressing up as our favourite literary characters for World Book Day, it was wonderful to welcome so many friends of the school community to read to our pupils, including a number of sporting celebrities and the heroes who help us everyday. Diolch yn fawr iawn! (7/3/24)
-
Eisteddfod Gŵyl Ddewi / St David’s Day Eisteddfod
Fri 01 Mar 2024In dilyn Eisteddfod Gwyl Ddewi lwyddiannus arall, lle cystadlodd pob disgybl mewn cystadleuaeth o ryw fath, boed hynny'n llefaru, canu neu celf, pleser oedd cyhoeddu mai Seren oedd enillydd cystadleuaeth y gadair eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Seren!
Following another very successful St David's Day Eisteddfod, where all our pupils competed in various singing, reciting and art competitions, it was a pleasure to announce Seren as the winner of this year's chair competition. Congratulations Seren! (1/3/24)
-
Proms Lleisiol Clwstwr Gwyr / Gwyr Cluster Vocal Proms
Wed 28 Feb 2024Braf oedd gweld a chlywed perfformiad arbennig gan ddisgyblion Bl 6 ysgolion cymuned Ysgol Gyfun Gwyr
yn y proms lleisiol heno. Gyda champfa llawn rhieni a ffrindiau balch iawn, cafon ni wledd o ganu, gyda phob disgybl yn mwynhau'r profiad a'r cyfle i gymdeithasu â'u cyfoedion o ysgolion eraill.
It was great to see and hear such a wonderful performance by Year 6 pupils from the Ysgol Gyfun Gwyr cluster schools at this evening's vocal proms. With the gymnasium full of proud parents and friends, we were treated to a variety of school favourites, with all pupils enjoying the experience and benefitting from the opportunity to socialise with their peers from other schools. (28/2/24)
