Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dur a Môr / Urdd National Eisteddfod
Wed 28 May 2025Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion hynny a gynrychiolodd yr ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Margam yr wythnos diwethaf. Ceir perfformiadau arbennig gan bawb ac hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn ffynnu ar lwyfan ac yn serennu wrth berfformio ar lwyfan cenedlaethol. Mae'r ysgol yn browd iawn ohonyn nhw i gyd.
Llongyfarchiadau i Ffion Nabialek yn arbennig ar ennill y fedal arian yn yr Eisteddfod, gyda’i pherfformaid swynol o ‘Hufen Iâ’ yn yr Unawd Bl 3&4. Roedd hi’n berfformiad hyderus ac aeddfed ac edrychwn ymlaen at ei gweld hi’n serennu ar lwyfannau di-ri dros y blynyddoedd nesaf. Da iawn Ffion!
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Theo Ruddle ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Lliw Bl 3&4 yn Eisteddfod yr Urdd. Canmolodd y beirniaid ei ffotograff hyfryd o’i ddadcu yn tyfu llysiau yn yr ardd ac edrychwn ymlaen at arddangos y ddelwedd yn yr ysgol yn fuan yn y gobaith o danio creadigrwydd eraill. Da iawn Theo!Congratulations to all those pupils who represented the school and West Glamorgan at last week’s Urdd National Eisteddfod in Margam Park. The talent on display was exceptional and it was wonderful to see so many children thriving in the spotlight and having an opportunity to perform on a national stage. The school is extremely proud of them all.
Congratulations to Ffion Nabialek in particular on winning the silver medal at the Urdd Eisteddfod, with her wonderful performance of ‘Hufen Iâ’ in the Year 3&4 Solo. It was a very confident and polished performance and we look forward to seeing her accomplish great things on the stage over the coming years. Da iawn Ffion!
Congratulations also to Theo Ruddle on placing 3rd in the Year 3&4 Colour Photography competition at the Eisteddfod. His beautiful photograph of his grandfather growing vegetables in the garden really caught the eye of the judges and will soon be on display in school to inspire creativity in others. Llongyfarchiadau mawr Theo! (28/6/25) -
Diwrnodau Dathlu Darllen y Derbyn
Wed 21 May 2025Gyda'r haul yn gwenu a thorf o rieni a rhieni-cu yn bresennol i gefnogi, buodd disgyblion y Derbyn yn mwynhau arddangos eu sgiliau darllen a'r gweithgareddau ac adnoddau rydym yn defnyddio i ddysgu sut i ddarllen yn hyderus.
With the sun shining and a crowd of parents and grandparents in attendance, our Reception pupils thoroughly enjoyed showcasing their reading skills and the activities and resources they use in learning to read confidently. (21/5/25)
-
Cyngerdd Dathlu yr Urdd / Urdd Celebration Concert
Tue 20 May 2025Hyfryd oedd cael ymuno gyda'n ffrindiau o Ysgol Penllegaer yn Eglwys Santes Catherine heno mewn cyngerdd i ddathlu llwyddiannau'r ddwy ysgol yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd ac i godi arian i Bwyllgor Apêl yr Eisteddfod.
It was wonderful joining our friends from Ysgol Penllegaer in St Catherine's Church this evening for a concert to celebrate the successes of both schools at the Regional Urdd Eisteddfod and to raise much needed funds for the Eisteddfod Appeals Committee. (20/5/25)
-
Blwyddyn 5 yn Llanion Cove / Year 5 in Llanion Cove
Fri 16 May 2025Cafodd Blwyddyn 5 brofiad arbennig yng Nghanolfan antur preswyl Llanion Cove yn Sir Benfro yr wythnos hon. Gyda thywydd bendigedig, buon nhw ar y dŵr yn kayaks, canoes a paddle boards, yn dringo ac yn gweithio fel tîm i ddatrys problemau. Yn bwysiacach na hynny, cysgon nhw drwy’r nos fel bod y staff yn gallu cael ychydig o orffwys. Roedd ymddygiad y plant yn arbennig ac maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr yn awr at eu profiad preswyl nesaf yn Llangrannog ym Mlwyddyn 6.
What am amazing experience Year 5 had this week at Llanion Cove residential adventure centre in Pembrokshire. In glorious sunshine, they kayaked, canoed, paddle boarded, climbed rock walls, worked together as a team to solve problems and more importantly, slep all night so that the staff could catch up on their beauty sleep. The children were a credit to the school and are now looking forward to next year’s residential visit to Llangrannog. (16/5/25)
-
Ffair Wanwyn / Spring Fair
Sat 10 May 2025Yn dilyn diwrnod bendigedig, diolch i bawb am gefnogi’r Ffair Wanwyn heddi - plant, rhieni, staff ac yn arbennig aelodau’r 'Ffrindiau' am eu gwaith di-flino yn paratoi o flaen llaw, ar y diwrnod ac am dacluso ar ddiwedd y dydd. O ganlyniad i ymdrechion ac haelioni cymuned ein hysgol, codwyd swm arbennig o arian - cyfanswm i ddilyn yn fuan!
Following a fantastic day, thank you to everyone who supported today’s Spring Fair - pupils, parents, staff and particularly the members of the 'Friends' for their tireless work before, during and after the event. As a result of the efforts and generosity of the school community, we raised a fantastic sum of money - total to be announced soon! (10/5/25)
-
Ymweld â 10 Downing St / Visiting 10 Downing Street
Fri 25 Apr 2025O ganlyniad i'r bartneriaeth rhyngom ni ag Ysgol Kryvi Rih Gymnasium No 28, a gyda chefnogaeth hael y Cyngor Prydeinig, buodd criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 sy'n aelodau o'r Cyngor Ysgol, Pwyllgor Eco a'r Pwyllgor Lles, yn ymweld â 10 Downing St heddiw. Yn ogystal ag ymgymryd â gwahanol gweithdai diwylliannol gyda phlant eraill, cafodd disgyblion y cyfle i fynd ar daith o gartref swyddogol y Prif Weinidog yn ogystal â thynnu lluniau wrth y drws enwog. Roedd hi'n brofiad bythgofiadwy!
As a result of our UK - Ukraine School Partnership with Kryvi Rih Gymnasium No 28 School and following generous support from the British Council, a number of Year 6 pupils who are members of the School Council, Eco Committee and Wellbeing Committee had the experience of a lifetime today when they visited 10 Downing Street. In addition to partaking in various cultural workshops with other children, our pupils got the opportunity to tour the Prime Minister's official residence and got to take photos of themselves at the famous front door. It was an experience they'll never forget! (25/54/25)
-
Pencampwyr Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11 / Welsh Schools Under 11s Rugby Champions
Thu 03 Apr 2025Llongyfarchiadau mawr i Bencampwyr Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11 – Ysgol Gymraeg Pontybrenin! Yn ddiguro ac heb ildio yr un cais trwy gydol y twrnamaint, curon ni Ysgol Gymraeg Llantrisant yn y rownd derfynol gyda chyfuniad o chwarae mentrus ac amddiffyn cadarn. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn browd iawn o’r bechgyn ar eu llwyddiant ac am gynrychioli Ysgol Gymraeg Pontybrenin gydag anrhydedd. Da iawn bois!
A huge congratulations to the Welsh Schools U11s Rugby Champions for 2025 – Ysgol Gymraeg Pontybrenin! Unbeaten and without conceding a single try throughout the tournament, we beat Ysgol Gymraeg Llantrisant in
the final with a combination of adventurous play and solid defence. Everyone associated with the school is extremely proud of all the boys on this fantastic achievement. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd! (3/4/25) -
Eisteddfod yr Urdd - Cylch Llwchwr / Loughor Area Urdd Eisteddfod
Fri 21 Mar 2025Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion yr ysgol a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd heddiw. Mae’r ysgol yn ymfalchϊo yn eu perfformaidau ac mae pob un ohonynt yn haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion dros yr wythnosau diwethaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld 19 o eitemau (unigolion a grwpiau) yn cynrychioli Cylch Llwchwr yn yr Eisteddfod Rhanbarthol yn Neuadd y Brangwyn ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 5ed.
Llongyfarchiadau yn benodol i Ffion Nabialek ar ennill Tlws Coffa Myra Rees, sy'n cael ei gyflwyno yn flynyddol i'r llefarydd mwyaf addawol. Da iawn Ffion!
Congratulations to all those pupils who competed at today’s Urdd Loughor Area Eisteddfod. As a school, we’re extremely proud of their performances and they deserve every praise for the time and effort they’ve given over the past few weeks. The standard was excellent as always and everyone gave of their very best. We look forward to seeing 19 items (individuals and groups) representing the Loughor District at the Regional Eisteddfod in the Brangwyn Hall on Saturday, April 5th.
Congratulations in particular to Ffion Nabialek who won the Myra Rees Memorial Shield, awarded annually to the most promising reciter. Llongyfarchiadau Ffion! (21/3/25)
-
Diwrnod y Llyfr / World Book Day
Thu 06 Mar 2025Yn ogystal a gwisgo lan fel ein hoff gymeriadau llenyddol, hyfryd oedd gallu croesawu cymaint o ffrindiau cymuned ein hysgol i ddarllen i’r plant, gan gynnwys enwogion y byd chwaraeon a’r arwyr sy’n ein helpu pob dydd. Diolch yn fawr iawn!
In addition to dressing up as our favourite literary characters for World Book Day, it was wonderful to welcome so many friends of the school community to read to our pupils, including a number of sporting celebrities and the heroes who help us everyday. Diolch yn fawr iawn! (6/3/25)
-
Eisteddfod Gwyl Ddewi / St David's Eisteddfod
Wed 05 Mar 2025In dilyn Eisteddfod Gwyl Ddewi lwyddiannus arall, lle cystadlodd pob disgybl mewn cystadleuaeth o ryw fath, boed hynny'n llefaru, canu neu celf, pleser oedd cyhoeddu mai Arwen oedd enillydd cystadleuaeth y gadair eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Arwen!
Following another very successful St David's Day Eisteddfod, where all our pupils competed in various singing, reciting and art competitions, it was a pleasure to announce Arwen as the winner of this year's chair competition. Congratulations Arwen! (5/3/25)
