Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Cystadleuaeth Coginio yr Urdd / Urdd Cooking Competition
Wed 15 Oct 2025Hyfryd oedd gweld 'Masterchefs' y dyfodol ar waith heddiw wrth i nifer o ddisgyblion gystadlu yng nghystadleuaeth CogUrdd a PhobUrdd yr Urdd eleni, gyda wraps oer a chacennau ar y fwydlen. Roedd y creadigrwydd a safon y paratoi a'r coginio yn wych a gallai'r bwydydd hyn fod wedi eu gwerthu mewn caffi neu archfarchnad lleol. Llongyfarchiadau mawr i Felicity ar ennill y gystadleuaeth CogUrdd gyda'i wrap oer ac i Maggie ar ennill y gystadleuaeth PobUrdd gyda'i chacen. Da iawn chi a phob lwc yn y rownd nesaf.
It was wonderful seeing the next generation of 'Masterchefs' at work today as a number of our pupils competed in this year's Urdd CogUrdd and PobUrdd competitions, with cold wraps and cakes on the menu. The creativity and standard of food preparation and cooking was outstanding and would not have looked out of place in a cafe or on sale in a local supermarket. Congratulations to Felicity on winning the CogUrdd competition with her cold wrap and to Maggie on her victorious cake. Da iawn chi! Best of luck to them both in the next round. (15/10/25)
-
Taith Gerdded Noddedig / Sponsored Walk
Wed 08 Oct 2025Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i ddisgyblion yr ysgol gerdded hyd at 5km o gwmpas ein cymuned er mwyn codi arian i'r ysgol ac i elusen Morgan's Army. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi'r ysgol a'r elusen arbennig hon. O ganlyniad i'ch caredigrwydd, codwyd swm arbennig o £6738! Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
A wonderful day was had by everyone today as our pupils walked up to 5km within our local community for charity, with the money raised being shared equally between the school and Morgan's Army. A huge thank you to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in support of the school and this fantastic charity. Thanks to your generosity, we raised an amazing £6738! Diolch yn fawr iawn! (8/10/25)
-
sdfsdf
Fri 03 Oct 2025Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed cymysg Blwyddyn 4 ar ennill twrnamaint pêl-droed Urdd Gorllewin Morgannwg heddiw. Enillodd y tîm pob gêm, heb ildio yr un gôl yn yn ystod y gemau grŵp. Dan arweiniad medrus Seb, a enwyd yn chwaraewr y twrnamaint, curwyd Ysgol Gymraeg Y Login Fach yn y rownd derfynol ac edrychwn ymlaen yn awr i’w gweld nhw yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Da iawn chi!
Congratulations to our Year 4 boys and girls mixed football team on winning today's West Glamorgan Urdd football tournament. They were unbeaten on the day and didn’t concede a single goal throughout the group stages. Led skilfully by Seb, who was named player of the tournament, they beat Ysgol Gymraeg Y Login Fach in the final and will now go on to play in the finals in Aberystwyth in June. Da iawn chi! (3.10.25)
-
Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning
Fri 26 Sep 2025Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £764 i’r elusen arbennig hon.
A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £764 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn! (26/9/25)
-
Bocsys blodau newydd / New flower boxes
Thu 25 Sep 2025Diolch yn fawr iawn i Cerith Morris a CEM Abertawe am eu rhodd hael o focsys planhigion newydd i'r ysgol. Maen nhw'n edrych yn arbennig a gyda bylbiau, planhigion a blodau wedi eu plannu ynddyn nhw yn ddiweddar, byddwn yn dod ag ychydig o liw ac hapusrwydd i'r ysgol trwy gydol y flwyddyn.
A big thank you to Cerith Morris and HMP Swansea for the kind donation of our new planter boxes. They are really heavy-duty and look amazing. With various bulbs, plants and flowers having been planted in them recently, they'll bring some brightness to the school all year round. (25.9.25)
-
Diwrnod Cynnal a Chadw / Maintenance Day
Sat 28 Jun 2025Er mai siomedig oedd yr ymateb i’n Diwrnod Cynnal a Chadw ar Ddydd Sadwrn, gydag ond 10 oedolyn a 7 o blant yn mynychu, llwyddon ni gyflawni tipyn ac mae tir yr ysgol yn edrych llawer mwy taclus o ganlyniad i’w hymdrechion. Gwerthfawrogir yn fawr eu parodrwydd i roi mor hael o’u hamser. Diolch yn fawr iawn!
Whilst the response to our Maintenance Day on Saturday was a little disappointing with only 10 adults and 7 children attending, they succeeded in accomplishing a great deal, with the school’s grounds looking far tidier as a result. Their generosity in giving so freely of their time is very much appreciated. Diolch yn fawr iawn! (28/6/25)
-
Blwyddyn 6 yn Llangrannog - Diwrnod 3 / Year 6 in Llangrannog - Day 3
Fri 27 Jun 2025Dros 3 diwrnod llawn antur, mae disgyblion Blwyddyn 6 y bump ysgol clwstwr wedi mwynhau mas draw tra'n mynychu Canolfan yr Urdd yn Llangrannog fel rhan o raglen pontion cynhwysfawr YG Gwyr. Roedd sgio, gwib-gartio, y rhaffau uchel, saethyddiaeth beiciau modur a gemau amrywiol yn esiamplau o'r gweithgareddau buon nhw'n gwneud. Diolch yn fawr iawn i staff y gwersyll am y croeso cynnes unwaith eto eleni a diolch hefyd i holl staff yr ysgol am roi mor hael o'u hamser i arwain a goruchwylio'r plant.
Over 3 action packed days, Year 6 pupils from across all 5 cluster schools have had a great time this week at the Urdd Centre in Llangrannog as part of the comprehensive transition programme with YG Gwyr. Skiing, go-karting, high ropes, archery, quad biking and multi-games being just some of the activities enjoyed. A big thank you to the staff at the centre for the warm welcome once again this year and to all the school staff who gave so generously of their time to lead the pupils. (27/6/25)
-
Blwyddyn 6 yn Llangrannog - Diwrnod 2 / Year 6 in Llangrannog - Day 2
Thu 26 Jun 2025 -
Blwyddyn 6 yn Llangrannog - Diwrnod 1 / Year 6 in Llangrannog - Day 1
Wed 25 Jun 2025 -
Proms Lleisiol Clwstwr Gwyr / Gwyr Cluster Vocal Proms
Mon 23 Jun 2025Roedd yr ysgol yn browd iawn o berfformiad côr unedig Blwyddyn 6 clwstwr Gwyr heno wrth iddyn nhw berfformio i gynulleidfa o rieni a theuluoed. Hyfryd oedd gweld disgyblion ein hysgolion yn cymdeithasu ac yn creu ffrindiau newydd fel rhan o raglen gynhwysfawr Pontio YG Gwyr.
The school was very proud of the unified Year 6 Gwyr cluster choir this evening as they performed to an audience of parents and family members. It was wonderful seeing pupils from all 5 feeder schools socialising and making new friends as part of the comprehensive Gwyr transition programme. (23/6/25)
