🎵 Fel Pawb Arall - Guide
Cân 1 - Fel Pawb Arall
Pam dwi mor wahanol?
Pam dw i fel hyn?
Pam ydw i yn methu’n llwyr
O fore tan hwyr
Na deall fel mae pawb arall jyst yn ‘deall’?
Pam dwi mor wahanol?
Pam dw i fel hyn?
Pam na ’dw i yn gweld yn glir
Dwi’n cym’ryd mor hir
Na derbyn fel mae pawb arall jyst yn ‘derbyn’?
Pam Fi? Pam fi?
O pam na alla i?
Gallu joio, gallu gwenu, gallu byw yn y foment -
Ie, ie - jyst hwyl yr ŵyl yw hi.
Ie, ie - jyst hwyl yr ŵyl yw hi.
Pam dwi mor wahanol?
Pam dw i fel hyn?
Pam ‘so fi’n gw’bod beth i’w wneud
Na beth sydd i’w ddweud
Neu chwerthin fel mae pawb arall jyst yn ‘chwerthin’?
Pam dwi mor wahanol?
Pam dw i fel hyn?
Pam ydw i yn methu’n llwyr
O fore tan hwyr
Na deall fel mae pawb arall jyst yn ‘deall’?
Pam Fi? Pam fi?
O pam na alla i?
Gallu joio, gallu gwenu, gallu byw yn y foment -
Ie, ie - jyst hwyl yr ŵyl yw hi.
Ie, ie - jyst hwyl yr ŵyl yw…
Pam Fi? Pam fi?
O pam na alla i?
Gallu joio, gallu gwenu, gallu byw yn y foment -
Ie, ie - jyst hwyl yr ŵyl yw hi x2
🎵 Sŵn y Farchnad - Guide
Cân 2 - Sŵn y Farchnad
Grwp 1
Dewch i brynu!
Dewch i brynu!
Bargeinion diri - sydd gennym ni i chi!
Dewch i brynu!
Un i bob tŷ!
Grwp 2
Beth am brynu hwn?
Beth am brynu hwn?
Y gȇm newydd ar y stryd!
Beth am brynu hwn?
Yr un gorau yn y byd!
Grwp 3
Losin Melys!
Danteithion Sawrus!
Y cyntaf i’r felin geith falu!
Losin blasus, melys!
Mae’n nhw’n hanfodol i bob tŷ
Middle 8 - Noel;
Oes angen yr holl hylabalw?
‘sgen i ddim llonydd - dim ardal i fod
Mae moroedd o gegau yn canu’r un côr
Sut ga i lonydd? Pryd ddaw hyn i ben?
Grwp 1
Dewch i brynu!
Dewch i brynu!
Bargeinion diri -
sydd gennym ni i chi!
Dewch i brynu!
Un i bob tŷ!
Sydd gennym ni i chi!
Dewch i brynu!
Un i bob ty!
Grwp 2
Beth am brynu hwn?
Beth am brynu hwn?
Y gȇm newydd ar y stryd!
Beth am brynu hwn?
Yr un gorau yn y byd!
Beth am brynu hwn?
Yr un gorau yn y byd!
Grwp 3
Losin Melys!
Danteithion Sawrus!
Y cyntaf i’r felin geith falu!
Losin blasus, melys!
Mae’n nhw’n hanfodol i bob tŷ
Losin blasus, melys!
Mae’n nhw’n hanfodol i bob tŷ
🎵 Haleliwia - Guide
Cân 3 - Haleliwia
Ar noson fel hon fe ganwn, Haleliwia
Ar noson fel hon fe ddaeth y brenin i’r byd
Ar noson fel hon fe deimlwn mawr orfoledd
Fe ddaethost a phob cenedl ynghyd
Ni di bod yn canu caneuon fel hon yn rhy hir
Am asynod a stablau a brenhinoedd di ri
Does neb byth eisiau gwrando arnom ni!
Beth am Taylah Swift neu bach o ACDC?
Athrawon stressed yn gweiddi arnom ni
Llieni llestri ar ein pennau - sut hoffech chi hynny?
Dweud a dweud y geiriau yn ddi baid
Beth pe na bai sioe - oes rhaid??
Ar noson fel hon fe ganwn, Haleliwia
Ar noson fel hon fe ddaeth y brenin i’r byd
Ar noson fel hon fe deimlwn mawr orfoledd
Fe ddaethost a phob cenedl ynghyd
🎵 Ffrindiau - Guide
Cân 4 - Ffrindiau
Dewch atom ni, fe helpwn ni ti
S’dim na allwn ni wella
‘Sdim problem rhy fawr, ‘sdim pen ar y llawr
Ewn ni ddim ‘sbo’ ni’n cwpla!
Dewch, dewch draw i drafod
Mae’r ateb gennym yn rhywle,
Dewch rhannwch eich barn
Pawb fan hyn - ry’ ni’n ffrindie
Pob cwestiwn ag ateb,
Pob carreg yn troi
Fe weithiwn gyda’n gilydd
Lles sy’n bwysig – gwrandewch arnom ni
‘Sdim na fedrwn ni ddatrys!
Corws:
Ffrindiau, ffrindiau - mae pawb a’i ffrindiau
I’n helpu ni godi gwên
O, ffrindiau, ffrindiau - mae pawb a’i ffrindiau
Sut fyddai byw - heb ein ein teulu clên? O, la, da, da, da.
Mae’r dolig rhy fawr, ond help sydd wrth law
Mae ffordd i ymdawelu
Y cyffro di baid - mor anodd mae’n rhaid
Ma’ sawl ffordd i gael parti!
Dewch, dewch draw i drafod
Mae’r ateb gennym yn rhywle,
Dewch rhannwch eich barn
Pawb fan hyn - ry’ ni’n ffrindie
Pob cwestiwn ag ateb,
Pob carreg yn troi
Fe weithiwn gyda’n gilydd
Lles sy’n bwysig – gwrandewch arnom ni
‘Sdim na fedrwn ni ddatrys!
Corws:
Ffrindiau, ffrindiau - mae pawb a’i ffrindiau
I’n helpu ni godi gwên
O, ffrindiau, ffrindiau - mae pawb a’i ffrindiau
Sut fyddai byw - heb ein ein teulu clên? O, la, da, da, da.
La, da, da, da, da, da
O, ffrindiau, ffrindiau - mae pawb a’i ffrindiau
Sut fyddai byw - heb ein ein teulu clên? O, la, da, da, da.
🎵 Y Gyfrinach - Guide
Cân 5 - Y Gyfrinach
Mae pawb yn wahanol - pawb yn haeddu lle
Un calon sydd, un enaid - a dyna fe,
‘Sdim ots pa dras, pa wlad - yr un yw’n neges nawr
Wrth rhannu’r ddaear hon - y chi a ni.
Mae pawb yn haeddu cyfle i fod yn y ras
Mae’n cymryd nerth a dewrder i sefyll mas
‘Sdim ots pa liw, pa le - yn dal, yn fach, yn fawr
Un tylwyth ydym ni, - y chi a ni.
Ond mae ganddom ni gyfrinach - mor ddwfn yn ein calonau ni
Eich plant sydd yma wrth y llyw, agorwch eich calonau, byddwch driw
Gwrandewch ar ein stori ni - dyma yw ein cri
Dewch ynghyd, ymunwch gyda ni.
Ar adeg y nadolig, beth am estyn llaw?
I ddathlu mor wahonol yr ydym nawr,
Trwy ddangos ffydd a pharch - mae pawb yn waed a chnawd
‘Run bobl ydym ni - y chi a ni
Ond mae ganddom ni gyfrinach - mor ddwfn yn ein calonau ni
Eich plant sydd yma wrth y llyw, agorwch eich calonau, byddwch driw
Gwrandewch ar ein stori ni - dyma yw ein cri
Dewch ynghyd, ymunwch gyda ni.
Ond mae ganddom ni gyfrinach - mor ddwfn yn ein calonau ni
Eich plant sydd yma wrth y llyw, agorwch eich calonau, byddwch driw
Gwrandewch ar ein stori ni - dyma yw ein cri
Dewch ynghyd, ymunwch gyda ni.
Dewch ynghyd, ymunwch gyda ni.
Clywch ein cri!
