Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion hynny a gynrychiolodd yr ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Margam yr wythnos diwethaf. Ceir perfformiadau arbennig gan bawb ac hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn ffynnu ar lwyfan ac yn serennu wrth berfformio ar lwyfan cenedlaethol. Mae'r ysgol yn browd iawn ohonyn nhw i gyd.
Llongyfarchiadau i Ffion Nabialek yn arbennig ar ennill y fedal arian yn yr Eisteddfod, gyda’i pherfformaid swynol o ‘Hufen Iâ’ yn yr Unawd Bl 3&4. Roedd hi’n berfformiad hyderus ac aeddfed ac edrychwn ymlaen at ei gweld hi’n serennu ar lwyfannau di-ri dros y blynyddoedd nesaf. Da iawn Ffion!
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Theo Ruddle ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Lliw Bl 3&4 yn Eisteddfod yr Urdd. Canmolodd y beirniaid ei ffotograff hyfryd o’i ddadcu yn tyfu llysiau yn yr ardd ac edrychwn ymlaen at arddangos y ddelwedd yn yr ysgol yn fuan yn y gobaith o danio creadigrwydd eraill. Da iawn Theo!
Congratulations to all those pupils who represented the school and West Glamorgan at last week’s Urdd National Eisteddfod in Margam Park. The talent on display was exceptional and it was wonderful to see so many children thriving in the spotlight and having an opportunity to perform on a national stage. The school is extremely proud of them all.
Congratulations to Ffion Nabialek in particular on winning the silver medal at the Urdd Eisteddfod, with her wonderful performance of ‘Hufen Iâ’ in the Year 3&4 Solo. It was a very confident and polished performance and we look forward to seeing her accomplish great things on the stage over the coming years. Da iawn Ffion!
Congratulations also to Theo Ruddle on placing 3rd in the Year 3&4 Colour Photography competition at the Eisteddfod. His beautiful photograph of his grandfather growing vegetables in the garden really caught the eye of the judges and will soon be on display in school to inspire creativity in others. Llongyfarchiadau mawr Theo! (28/6/25)