Rhestr Sillafu - Spelling List
Dyma'n themau conglfeini am y flwyddyn
Hwyl wrth estyn ein sgiliau mathemategol. Cawsom ymarfer mesur yn fwyfwy manwl gan ddefnyddio pob math o offer mesur hylif - jygiau, silindrau mesur a llwyau o bob maint.
Aethom ar ymweliad diddorol i Benclacwydd ym Medi. Dysgom ni lawer am fywyd y gwlyptir a chael hwyl ar yr un pryd fel mae'r lluniau'n dangos!







Mae pawb wedi mwynhau gwneud a rhannu eu tasg coginio i fynd gyda'n thema 'Plant y Chwyldro'. Roedd yn rhaid darganfod a choginio rysait o Oes Fictoria. Yn ffodus i ni, rhannodd y rhan fwyaf ohonom ni ein cynhyrchion gyda'r dosbarth!







Teganau o Oes Fictoria.
Ymchwilio i allu gwahanol ddeunyddiau i amsugno dwr. Roedd gofyn i ni arsylwi'n fanwl ar wead chwe gwahanol deunydd cyn i ni ymchwilio i ba un oedd yn amsugno'r mwyaf o ddwr.

