-
Diogelwch Tan / Fire Safety
Mon 28 Mar 2022Diolch i Wasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am y cyflwyniad ar ddiogelwch tân heddiw. Roedd hi'n gyflwyniad difyrrus a buddiol, yn enwedig gyda chymaint o danau gwair ar hyn o bryd.
Thank you to Mid and West Wales Fire & Rescue Service for today's entertaining and informative presentation on fire safety, particularly with so many grass fires at the moment. Diolch! (28/3/22)
-
Wythnos Masnach Deg / Faire Trade Week
Mon 21 Mar 2022Llongyfarchiadau i ddosbarthiadau Blwyddyn 2 Mrs Griffiths a Blwyddyn 3&4 Mr Sterl am ennill y gystadleuaeth casglu symbolau Manach Deg. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion (a'u rhieni wrth gwrs!) yn prynu nwyddau Masnach Deg dros y pythefnos diwethaf. Arbennig!
Congratulations to Mrs Griffiths' Year 2 class and Mr Sterl's Year 3&4 class on winning the competition to collect the most Fair Trade symbols. It was great to see so many pupils (and their parents of course!) buying Fair Trade goods over the past fortnight. Well done! (21/3/22)
-
Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success
Fri 18 Mar 2022Llongyfarchiadau mawr i gymnastwyr talentog ein hysgol ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Acro Ysgolion Cymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd heddiw. Cynrychiolodd Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy ac Isabella yr ysgol gydag anrhydedd, gydag Isabella & Daisy yn ennill aur a Poppy & Carys yn cipio efydd yn y Parau Acro Dan 11 oed. Enillodd y tîm aur yn y Grŵp Acro gyda pherfformiad rhagorol mewn cystadleuaeth o safon uchel. Da iawn chi!
Congratulations to some very talented gymnasts on their success at today's Welsh Schools Acro Competition in Sophia Gardens, Cardiff. Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy and Isabella all represented the school with distinction, with Isabella & Daisy winning gold and Poppy & Carys taking bronze in the Under 11s Pairs Acro. The team won a collective gold in the Group Acro with an outstanding performance. Da iawn chi! (18/3/22)
-
Cefnogi yr Wcrain / Supporting Ukraine
Fri 18 Mar 2022O ganlyniad i haelioni teulu YGG Pontybrenin, codwyd swm arbennig o £2130 i apêl yr Wcrain heddiw. Diolch i'r cyngor ysgol a disgyblion Blwyddyn 6 am drefnu'r holl weithgareddau, gan gynnwys y paentio wynebau, gwerthiant y tocynnau raffl a'r gemau amrywiol. Mwynheodd pawb codi arian i'r sawl sydd ei angen fwyaf ar hyn o bryd. Diolch!
Thanks to the generosity of the YGG pontybrenin family, we raised an amazing £2130 for the Ukraine appeal. Thank you to the school council and our Year 6 pupils for arranging all the activities, including the face painting, raffle ticket sales and the various games. Everyone had a great time raising money for those in most need at this moment in time. Diolch! (18/3/22)