-
Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning
Fri 29 Sep 2023Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £690 i’r elusen arbennig hon.
A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £690 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn! (29/9/23)
-
Ymweliad gan PC George / Visit by PC George
Wed 27 Sep 2023Hyfryd oedd croesawu PC George i'r ysgol am y tro cyntaf heddiw wrth iddo rhannu cyflwyniad ar 'Beryglon Dieithriaid gyda disgyblion Blwyddyn 1. Bydd PC George yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd dros y flwyddyn nesaf wrth iddo gynnal cyfres o weithdai gyda disgyblion yr ysgol ar wahanol agweddau o ddiogelwch.
It was wonderful to welcome PC George to the school for the first time today as he shared a presentation with our Year 1 pupils on 'Stranger Danger'. PC George will be visiting the school on a regular basis throughout the year as he delivers a series of workshops on various aspects of safety. (27/9/23)