Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Disgos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos

    Mon 30 Jan 2023

    Diolch i bawb am gefnogi ein disgos Santes Dwynwen yr wythnos hon, yn enwedig aelodau' Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith caled o flaen llaw ac ar y noson. Diolchgar iawn! Cyfanswm i’w gyhoeddi maes o law.

     

    Thank you to everyone who supported this week’s St Dwynwen’s discos, especially the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard beforehand and on both evenings. We’re incredibly grateful! Total raised will be announced soon. (30/1/23)

  • DJs Radio Pontybrenin yn ymweld a BBC Cymru / YGG Pontybrenin Radio DJs visiting BBC Wales

    Thu 26 Jan 2023

    Mwynheodd ein DJs Radio mas draw heddiw yn ystod eu hymweliad â stiwdios newydd BBC Cymru yng Nghaerdydd. Yn ogystal â dysgu sut mae'r cyfryngau yn gweithio tu ôl i'r llen, cafon nhw gyfle i gwrdd â Garry Owen a gweld Wynne Evans yn cyflwyno ei rhaglen radio yn fyw. Efallai bod newyddiadurwyr a gohebwyr y dyfodol yn ein plith?

     

    Our Radio DJs had a fantastic time today during their tour of the new BBC Wales studios in Cardiff. In addition to learning how the media works behind the scenes, they also had an opportunity to meet with Garry Owen and saw Wynne Evans presenting his radio show live. Perhaps we have the next generation of reporters and presenters in our midst?

  • Cyngor Ysgol yn ymweld a'r Senedd / School Council visiting the Senedd

    Wed 25 Jan 2023

    Cafodd aelodau ein Cyngor Ysgol (ac etholwyr y dyfodol) diwrnod cynhyrchiol iawn yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, wrth ddysgu am ddemocratiaeth a'u rol nhw yn lleisio'u barn a gwneud penderfyniadau. Bydd y sgiliau hyn yn ddefnyddiol iawn wrth iddyn nhw wrando ar farn eu cyfoedion er mwyn parhau i wella'r ysgol.

     

    Our School Council (and future electorate) had a really informative day at the Senedd in Cardiff Bay this morning, learning all about democracy and how they have a voice in the decision making process. These skills will serve them well as they listen to the views of their peers in order to continue to improve the school. (25/1/23)

     

  • Bore Coffi Lles / Wellbeing Coffee Morning

    Thu 12 Jan 2023

    Er mai siomedig oedd y niferoedd gwnaeth fynychu, roedd ein Bore Coffi Lles cyntaf yn lwyddiant, gyda Catrin McAdams, Ymarferydd Lles ac Emosiynau CAMHS yn rhannu ei harbenigedd gyda'r sawl oedd yn bresennol ac yn cynnig ei chefnogaeth. Bydd Miss Higgins, ein Swyddog Lles, yn arwain Boreau Coffi Lles yn bythefnosol, ochr yn ochr gydag asiantaethau allanol eraill ar fore Dydd Iau felly dewch draw am baned a sgwrs! 

     

    Whilst the numbers in attendance were disappointing, our first Wellbeing Coffee Morning was a success, with Catrin McAdams, an Emotional and Wellbeing Practitioner with the Child and Adolescent Mental Health Service (CAMHS) sharing her expertise with those in attendance and offering support. Miss Higgins, the school's Wellbeing Officer, will be leading fortnightly Wellbeing Coffee Mornings, alongside various support agencies, on Thursday mornings so please come along for a cuppa and a chat! (12/1/23) 

     

Top