Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Gwybodaeth - Information

Cyflwyniad Noson Agored Derbyn 2021 - Reception Open Evening Presentation 2021

Gwybodaeth i rieni Medi 2021 - Information to Parents September 2021

 

Croeso i Ddosbarth Mrs Owen a Mrs Fewings

Welcome to Mrs Owen and Mrs Fewings’ Class    

Dosbarth Meddylfryd Twf /A Growth Mindset class

Thema Theme

Ein thema bresennol yw ‘Y Llew Tu Mewn’ - llyfr stori am lygoden fach sy'n benderfynol o gael ei glywed ymhlith yr holl greaduriaid mawr eraill! Stori gadarnhaol ac ysbrydoledig y bydd plant yn ei charu dro ar ôl tro.

Our current theme is ‘The Lion Inside!’ – a story of a little mouse who's determined to be heard amongst all the other large creatures! A positive and inspirational story that children will love time and time again.

 

Dyma linc ‘youtube ‘i’r stori / Here’s a youtube link to the story

https://www.youtube.com/watch?v=d1p9T7c1W_c

 

Dysgu yn yr awyr agored Outdoor learning

Yn y Cyfnod Sylfaen, byddwn yn dysgu yn yr awyr agored lle’n bosib. Bydd angen cot addas pan fydd glaw man. Mae croeso i chi adael esgidiau glaw  yn yr ysgol i’ch plentyn.

In the Foundation Phase, we will be learning outdoors wherever possible. A suitable coat is needed when there is light rain. You are welcome to leave wellies in school for your child.

Addysg Gorfforol P.E

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal pob Dydd Iau. Gofynnwn i ddisgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad addysg gorfforol er mwyn osgoi newid yn yr ysgol.

The session will be held each Thursday. Pupils are asked to wear the PE kit to school on the day to avoid changing in school.

 

Cymorth o adref Support from home

Ar wefan y dosbarth mae yna adran arbennig yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol o fewn ‘Helpu eich plentyn’On the class webpage there is a specific area listing useful hints and tips within the tab ‘Helping your child’.

 Llawysgrifen. Handwriting

Mae llawysgrifen rhugl, taclus a chysylltiedig yn dibynnu ar ffurfio llythrennau yn y ffordd gywir ac o'r man cychwyn cywir. Gellir gweld canllaw ar sut rydym yn dysgu ffurfio llythrennau ar dudalen wefan ein dosbarth o dan y tab ‘Helpu eich plentyn’ ac yna dewiswch ‘Llawysgrifen’. Yn y Meithrin a’r Derbyn rhoddir pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau cyn-ysgrifennu disgyblion. Sgiliau cyn-ysgrifennu yw'r sgiliau sylfaenol y mae angen i blant eu datblygu cyn y gallant ysgrifennu. Yn YGG Pontybrenin mae disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau echddygol bras a manwl wrth baratoi ar gyfer dal offer gwneud marciau ac ysgrifennu. Rydym yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gryfhau eu craidd, cydsymudiad, cydbwysedd, sefydlogrwydd a chryfder corff uchaf trwy chwarae a thasgau ffocws yn eu hamgylchedd dysgu. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn ffurfio pob llythyren yn gywir gan y bydd hyn yn eu cefnogi pan fyddant yn dechrau ymuno eu llawysgrifen. Rydym yn annog disgyblion sy'n gallu ffurfio llythrennau yn gywir i ymarfer ysgrifen glwm cyn gynted â phosibl.

Fluent, neat and ‘joined up’ handwriting relies on letters being formed in the correct way and from the correct starting point. A guide on how we teach letter formation can be found on our school website under the tab ‘Helping your child’ and then selecting ‘Handwriting’. In Nursery and Reception, a large emphasis is placedon developing pupils pre-writing skills. Pre-writing skills are the fundamental skills children need to develop before they can write. In YGG Pontybrenin pupils engage in a range of activities that will help develop their gross and fine motor skills in preparation for holding mark making equipment and writing. We plan regular opportunities for pupils to strengthen their core, co-ordination, balance, stability and upper body strength through play and focused tasks in their learning environment. It is important your child forms each letter correctly as this will support them well when they begin to join their handwriting. We encourage pupils who can form letters correctly to practice cursive writing as soon possible.

 

Llyfrau Darllen Reading books

Gofynnir i’r plant ddod â’u llyfrau darllen i’r ysgol ar eu diwrnod darllen.  Children are asked to bring their reading books to school on their reading day.

 

Byrbryd bore Morning snack

Mae croeso i chi ddarparu ddarparu dau byrbryd iachus i’ch plentyn ac fydd angen potel ddŵr a gellir ei lenwi yn ystod y dydd petai angen.  You are welcome to  provide your child with a two healthy snack  and your child will need a water bottle each day.  This can be refilled in school as needed.

Nosweithiau Rhieni Parents evening

O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, byddwn yn parhau i gynnal noson rieni eich plentyn yn rhithiol trwy gyfrif Hwb eich plentyn.  Bydd gwybodaeth bellach i ddilyn.  As a result of the Covid-19 restrictions, your child’s parents evening will continue to be held remotely via your child’s Hwb account.  Details will follow shortly.

Trefniadau diwedd diwrnod ysgol End of school day arrangements

Rydych eisioes wedi derbyn taflen yn gofyn i chi restri unigolion sydd a chaniatad i gasglu eich plentyn or ysgol.  Bydd staff y dosbarth yn glynnu at y drefn yma er mwyn sicrhau diogelwch eich plentyn.  Cysylltwch â’r ysgol oes oes unrhyw newidiadau.  

You have already received a request for the details of individuals with permission to collect your child from school.  The staff will follow this closely to ensure the safety of your child. Please contact the school if you need to add or change any information held.  

 

Gwefan yr ysgol (School Website):                                                     Trydar (Twitter):

 www.yggpontybrenin.com                                                                    @PontybreninYGG

 

Diolch yn fawr,

Mrs Owen a Mrs Fewings

Top