Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Yr Ynys - The Island

Thema tymor yr Hydref - Autumn term theme

Rhestr diemwnt / Diamond ranking

I ddechrau'r thema newydd cafodd Blwyddyn 3 neges mewn potel! Llythyr hynod o bwysig o Gapten Carwyn. Dyma'r llythyr ar ffurf cod QR:

To start the new theme Year 3 received a message a bottle. It was a very important message from Captain Carwyn. Here's a copy of the letter in a QR code:

 

Ar ôl darllen y llythyr, cafodd y dosbarth cipolwg o beth oedd yn y cyst drysor. Yna, roedd yn rhaid iddyn nhw ddewis 9 eitem o'r cyst er mwyn helpu Capten Carwyn i fyw ar yr ynys a'u trefnu yn ôl defnyddioldeb. Dyma luniau o'r wers:

After reading the letter, the class got the opportunity to have a look at the contents of the treasure chest. Then, they had to choose 9 items from the chest to help Captain Carwyn live on the island and organise in order of usefulness. Here are some photos from the lesson:

Rysáit trofanol / Tropical recipe

Un o weithgareddau gwaith cartref yr hanner tymor yma oedd coginio rysáit trofannol a'i ddod i’w rhannu gyda’r dosbarth! Dyma sampl o'r holl fwyd blasus sydd wedi cyrraedd y dosbarth:

One of the home work activities during this half term was to cook a tropical recipe and to bring it in and share with the class! Here is a sample of the tasty food:

 

              

       Cwcis trofannol             Salad ffrwyth trofannol        Hwb egni trofannol

          Tropical cookies                           Tropical fruit salad                  Tropical energy boosts

 

              

       Myffins banana               Treiffl trofannol               Pitsa Hawaiaidd

      Banana muffins                               A tropical trifle                            Hawaiian pizza

 

              

      Pinafal wedi rhostio              Cacen trofannol                Iâ cneuen goco   

         Roasted pineapple                               Tropical cake                   Coconut ice    

 

              Cacen gaws pinafal a chneuen goco        Cacennau trofannol         Cebabs ffrwyth trofannol

      Pineapple and coconut cheescake                   Tropical fairy cakes                         Tropical fruit kebabs

 

Gwledd trofanol

  A tropical feast

 

               

         Bisgedi lemwn                Cebabs trofannol                Cacen pinafal

                Lemon biscuits                               Tropical kebabs                                 Pineapple cake

 

                

        Cebabs melon                Cacen cneuen goco              Crwst drofannol   

              Melon kebabs                                Coconut cake                              Tropical pastries

 

                

      Cacen cneuen goco          Cebabs ffrwyth trofannol        Bisgedi cneuen goco

              Coconut cake                            Tropical fruit kebabs                      Coconut biscuits

 

    

     Profiteroles trofannol

         ​​​​​​Tropical profiteroles

Ein Ynys / Our Island

Dyma ni yn trafod ein syniadau am ein ynys ni:

Here we are brainstorming our ideas for our very own island:

Sgiliau Mapio / Mapping skills

Dyma ni yn ymarfer ein sgiliau mapio er mwyn helpu Capten Carwyn i ddianc o'r goedwig. Gwnaethom dynnu mapiau syml gyda symbolau, dod o hyd i gyfeirnod grid map, casglu gwybodaeth o dan do a chael hyd i atebion gan ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir:

Here we are practising our map skills to help Captain Carwyn escape the tropical forest. We drew simple maps with symbols, found map grid references and collected information indoors using the resources provided:

Ar ôl ymarfer ein sgiliau mapio gwnaethom osod ein syniadau am ein hynys ar fap. Yna, gwnaethom gofnodi'r cyfeirnodau grid cywir ar gyfer yr holl atyniadau arbennig. Gwnaeth Capten Carwyn hyd yn oed cameo ar y map!
After practising our map skills we placed our ideas for our island on a map. Then, we made a note of the grid references for all the brilliant attractions. Captain Carwyn even made a cameo on our class map!

Cystadleuaeth rafftiau / Raft competition

Dros hanner tymor gosodwyd yr her o greu rafft i helpu Capten Carwyn ddianc o'r ynys. Dyma luniau o'r gystadleuaeth rhwng dosbarth Miss Beynon a Miss Dark i ddod o hyd i ba ddosbarth allai creu'r nifer mwyaf o rafftiau i arnofio yn llwyddiannus. Y canlyniadau...canlyniadau cyfartal:

Over half term the challenge was set to create a raft to help Captain Carwyn escape the island. Here are photos of the competition between Miss Beynon and Miss Darks class to see which class could create the biggest number of  rafts that could float. The result...a draw!

 

Bwyd ar yr ynys / Food on the island

Yr wythnos yma gofynnodd Capten Carwyn i'r dosbarth ddidoli'r bwyd sydd ar yr ynys. Bwyd megis pinafal, adar, pryfed blewog, madarch a brogaod lliwgar. Gosodwyd yr her i drefnu'r bwyd i fwyd sy'n ddiogel i'w fwyta a bwyd i beidio bwyta oherwydd peryglon amrywiol. Ar ôl didoli gofynnwyd i grwpiau greu poster i helpu Capten Carwyn gofio'r gwahanol fwydydd:

This week Captain Carwyn asked the class to sort the different foods available on the island. Food such as pineapples, birds, hairy  insects, mushrooms and colourful frogs. The challenge was set to sort the foods to those that are safe to eat and those that shouldn't be eaten because of certain dangers. After sorting, the different groups were asked to create a poster to help Captain Carwyn remember the different foods. Here the class are busy sorting:

Day in the life of Captain Carwyn

Bu'r dosbarth yn brysur yn creu symudiadau i gyd-fynd â darn ysgrifennu 'A day in the life of Captain Carwyn' (addasiad o lyfr 'Treasure Island') yn null Pie Corbett. Dyma sampl o'r symudiadau gwefreiddiol:

The class have been busy creating actions to go with the written piece 'A day in the life of Captain Carwyn' (an adaption from 'Treasure Island') in the style of Pie Corbett. Here is a sample of the  awesome actions:

Day in the life of Captain Carwyn.mov

Still image for this video

Yn dilyn dysgu'r symudiadau cafwyd cyfle i greu map stori o'r darn ysgrifennu 'A day in the life of Captain Carwyn' mewn grwp:

Following learning the actions we created a story map of 'A day in the life of Captain Carwyn' in groups:

Cynllunio cartref Eco newydd / Designing a new Eco home

Derbyniodd Blwyddyn 3 neges arall mewn potel yr wythnos hon o Gapten Carwyn. Gofynnodd Capten Carwyn iddynt ei helpu i gynllunio cartref eco newydd ar yr ynys. Rhaid oedd cynnwys 2 ffynhonnell egni adnewyddadwy. Felly, i ddechrau gwnaethom ganolbwyntio ar ddysgu mwy am egni adnewyddadwy, h.y. Sut maen nhw'n gweithio a'u manteision ac anfanteision:

Year 3 received another message in a bottle from Captain Carwyn this week. The message asked them to help him design a new eco home on the island compromising of 2 renewable energy sources. So, for this session we learned more about the different renewable energy sources, how they work and their advantages and disadvantages:

Arferion Nadolig / Christmas traditions

Wrth i'r Nadolig agosau rydym wedi bod yn dysgu mwy am arferion Nadolig ar draws y byd. Mae'r wybodaeth yma wedi ein helpu a sbarduno i feddwl am arferion Nadolig gall fod ar yr ynys:

As Christmas approaches we have been learning more about Christmas traditions around the world. This information spurred  us on to think about Christmas traditions that could be on the island:

Top