Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Noticeboard

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod

    Mon 30 May 2022

    Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Nimbych. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Whitsun week saw a number of our pupils representing West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Denbigh. Everyone enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each pupil gave of his / her very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (30/5/22)

  • Cylchlythyr #32 WyC 6.6.22

    Fri 27 May 2022
  • Newsletter #32 WB 6.6.22

    Fri 27 May 2022
  • Wythnos 'Dathlu fy Sgiliau' y Derbyn / Reception's 'Celebrating my Skills' Day

    Tue 24 May 2022

    Bu diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' y dosbarthiadau Derbyn yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni, yn dilyn 2 flynedd hebddynt, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau. Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our Reception classes 'Celebrating my Skills' days proved very successful yet again this year, following a 2 year hiatus, with a large number of parents and grandparents attending. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents / grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (24/5/22)

  • Cylchlythyr #31 WyC 23.5.22

    Fri 20 May 2022
  • Newsletter #31 WB 23.5.22

    Fri 20 May 2022
  • Gwyl Rygbi Ysgolion Lleol / Local Schools Rugby Festival

    Fri 13 May 2022

    Hyfryd oedd cael chwarae rygbi yn erbyn hen ffrindiau heddiw wrth i nifer o ysgolion lleol ddod ynghyd i ddangos pa mor dalentog mae ein disgyblion. Roedd safon y chwarae yn dda iawn, gydag Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn ennill pob gem tra'n sgorio nifer o geisiau hyfryd. Edrychwn ymlaen at yr ŵyl nesaf ymhen rhai wythnosau.

     

    It was wonderful having the opportunity to play rugby against old friends today as a number of local teams came together to showcase their talented players. The standard of play was very good, with Ysgol Gymraeg Pontybrenin winning all our games whilst scoring some fantastic tries.  We look forward to the next festival in the coming weeks. (13/5/22)  

  • Cylchlythyr #30 WyC 16.5.22

    Fri 13 May 2022
  • Newsletter #30 WB 16.5.22

    Fri 13 May 2022
  • Cylchlythyr #29 WyC 9.5.22

    Fri 06 May 2022
Top