Da iawn i bawb a fu'n ymdrechu yn ddiweddar i gael eu hethol i'n cynghorau a phwyllgorau amrywiol a llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion hynny a fu'n llwyddiannus yn dilyn etholiadau heddiw. Clywon ni lawer o syniadau arbennig (ac anarferol!) ar sut i ddatblygu'r ysgol ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus i wireddu'r syniadau hynny.
Well done to all those pupils who campaigned for our various pupil councils and committees recently and congratulations to all those who where elected following today's elections. We heard some wonderful (and unusual!) ideas for developing the school and look forward to working closely with the successful candidates in putting these ideas into action. (22/9/17)