Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i'r ysgol gyfan ddathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o weithgareddau hwylus, gan gynnwys gwisgo fel ein hoff gymeriadau llenyddol a mwynhau sesiynau stori tra'n gwledda ar fisgedi a llaeth blasus. Hyfryd hefyd oedd croesawu nifer o westeion gwadd i'r ysgol i ddarllen i'r disgyblion, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a disgyblion Blwyddyn 12 YG Gŵyr. Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw i gyd am roi mor hael o'u hamser.

Diolch yn fawr iawn hefyd i Asda Gorseinon a Tesco Fforestfach am eu haelioni nhw yn rhoddi'r llaeth a'r bisgedi. Blasus iawn!

 

Everyone had a great time today as we celebrated World Book Day with a variety of activities, including dressing up as our favourite literary characters and enjoying some wonderful story sessions, complete with milk and cookies. We also welcomed a number of guest readers to school, including South Wales Police, Wales Ambulance Service, Swansea Bay University Health Board and Year 12 pupils from YG Gwyr. A big thank you to them all for giving so generously of their time.

Thank you also to Asda Gorseinon and Tesco Fforestfach for generously donating the milk and cookies. They were delicious! (5/3/20)

Top