Ethos a Chenadwri
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yn anelu at gynnig addysg o'r safon orau sy'n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol, hapus a hollol Gymreig. Anogir pob disgybl i ddatblygu hunan barch ac agweddau cadarnhaol a chyfrifol at fywyd yn gyffredinol. Mae ethos gwaith cadarn yn yr ysgol a'r nod yw ysgogi pob disgybl i gyrraedd y safonau uchaf bob amser.
Mae ethos Cymreig yr ysgol yn adlewyrchu etifeddiaeth foesol, ysbrydol a diwylliannol Cymru ac yn creu fframwaith ar gyfer bywyd, gwaith a chenadwri'r ysgol.
Selir yr ethos hwn ar werthoedd Cristnogol anenwadol sy'n ganllaw gadarn ar gyfer bywyd bob dydd yr ysgol.
Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn [Erthygl 3 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plant]
Amcanion Penodol
Rhoi cyfle i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei [g]allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol.
Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli'r grefft o gyfathrebu yn y Gymraeg yn arbennig fel cyfrwng dysgu.
Annog pob disgybl i gyfrannu'n llawn yn ôl ei [d]doniau i gymuned yr ysgol ac i'r gymuned ehangach, yn lleol a chenedlaethol.
Cynnig yr un cyfle i bawb heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil na chrefydd
Ethos & Mission
Specific Objectives