
Cyfarfod heddiw - Mehefin 19eg
Rydym yn brysur yn gorffen paratoi'r holiadur plant ar gyfer yr ysgol. Trafodon ni ein datganiadau o'r cyfarfod diwethaf gan sicrhau cysondeb rhwng holiadur yr iau â'r babanod. Bwriadwn argraffu'r holiaduron ar ddiwedd y cyfarfod gan gyflwyno nhw i Mr Jones.



Cyfarfod heddiw - Mehefin 11eg 2015
Pwrpas ein cyfarfod heddiw oedd i benderfynu ar ba gwestiynau fydd yn yr holiadur plant. Rhanon ni mewn i ddau grŵp er mwyn addasu'r geirfa ar gyfer yr adrannau. Daeth Mr Jones i roi ymgynghoriad i ni ynglyn â strwythur yr holiadur.




Cyfarfod - Mehefin 5ed
* Trafod holiadur y plant
* Sôn ein bod ni yn gallu cyfrannu i'r holiadur gan ein bod ni yn cynrychioli llais y plant yn yr ysgol
* Cynnal trafodaeth am y pethau sy'n achosi pryder iddynt yn yr ysgol
gan hefyd sôn am yr holl bethau positif mae'r ysgol yn cynnig yn eu barn nhw
* Gofyn i'r plant i ystyried pa ddatganiadau hoffen nhw gynnwys yn yr holiadur
Cyfarfod - Mawrth 20fed, 2015
Heddiw, penderfynwyd bod angen i ni gymeryd cyfrifoldeb dros werthu'r ffrwythau yn ystod amser chwarae. Wnaethon ni greu amserlen ar gyfer bob dydd er mwyn atgoffa ein hunain am bwy sydd ar ddyletswydd. Gosodon ni'r amserlen ar y troli ffrwythau, gan ddanfon ail gopi i'r swyddfa.
Amserlen y troli ffrwyth
16.3.15
Daeth Mrs Williams i'n cyfarfod heddiw er mwyn i ni drafod y ffrwythau newydd hoffwn gael ar y troli ffrwythau yn ystod amser chwarae.
Cyfarfod Chwefror 13eg, 2015
Yn dilyn ein trafodaeth ynglyn â'r troli ffrwyth yn ystod y cyfarfod diwethaf, edrychon ni ar yr holiaduron a gasglwyd gan bawb. Sylweddolon ni taw mefus a grawnwin oedd hoff ffrwythau plant Ysgol Pontybrenin! Y cam nesaf yw i drafod y posibilrwydd o ychwanegu'r ffrwythau yma gyda Mrs Williams yn y swyddfa.
Enghraifft o'r holiadur ffrwyth
23/1/15
Heddiw, yn ein cyfarfod, gwnaethom drafod y ffrwythau sydd ar gael yn ystod ein hamseroedd chwarae. Er mwyn cynnig mwy o amrywiaeth i ddisgyblion yr ysgol, byddwn yn gwneud gwaith ymchwil yn ein dosbarthiadau erbyn y cyfarfod nesaf er mwyn penderfynu ar ffrwyth newydd i gynnig yn y troli ffrwythau.
Ein llyfr cofnodion



16.1.15
Yn ein cyfarfod heddiw, gwnaethom gynnal etholiad i ddewis Cadeirydd, Ysgrifenydd a Thrysorydd ar gyfer ein Cyngor Ysgol. Dyma'r canlyniadau:
Cadeiryddion- Charlotte Carter a Rhidian Suggett
Ysgrifenydd- Ethan Carmichael
Trysorydd- Jonny Adkins
Dyma ni yn mynd trwy'r broses o ethol ein arweinwyr.

