Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Derbyn siec gan Merched y Wawr / Receiving a cheque from Merched y Wawr

Mynychodd Mrs Julie Griffiths a chriw o ddisgyblion Blwyddyn 2 gyfarfod o gangen Gorseinon, Merched y Wawr heno, lle dderbyniwyd siec hael gan yr aelodau fel rhan o'u dathliadau 50 mlwydd oed. Defnyddir yr arian i brynu sachau stori i'r Cyfnod Sylfaen. Esboniodd y plant y syniad tu ôl i'r sachau stori yn ogystal â disgrifio cynnwys y sachau. Cafon nhw eu gwobrwyo am eu hymdrechion gyda llond plat o fisgedi a sudd!  

 

A number of Year 2 pupils accompanied Mrs Julie Griffiths this evening to a meeting of the Gorseinon branch of Merched y Wawr, where they received a generous cheque from its members as part of their 50th birthday celebration. The money will be put towards funding the first set of story sacks for the Foundation Phase. The children explained how the story sacks work and gave a detailed account of the contents of each sack. They were duly rewarded for their efforts with squash and biscuits! (30/1/17) 

Top