Wythnos 8 - Her Cwrs Antur Tim / Team Obstacle Course Challenge
Yr her yr wythnos hon oedd gweithio fel i tim i ddatrys problemau cyn cael cario mlaen gyda'r cwrs antur. Llongyfarchiadau i dim Jayden am gyrraedd y brig yn gyntaf.
This week's challenge was to work as a team to solve problems before moving on with the obstacle course. Congratulations to Jayden's team for getting in first.
Wythnos 7 - Her Dylunio Parc Chwarae Newydd - Design a New Park Challenge
Yr her yr wythnos hon oedd dylunio parc chwarae newydd i'r ysgol lle bydd y drofan newydd yn cael ei hadeiladu. Dyma rai o'r syniadau.
The challenge this week was to design a new park for the school to be built around the new round about. Here are some of the ideas.
Wythnos 6 - Her Rhifedd y Fferm - Farm World Numeracy
Problemau mathemategol amrywiol oedd yr her wythnos hon, a hynny ar y fferm! Roedd problemau am werth y gwlan, pris y moch a maint y fferm yn cadw plant y clwb y brysur. Da iawn i William, Dylan a Charlie am gael y nifer fwyaf o atebion yn gywir.
Maths was the challenge of the week, with the club having to solve farm problems about the value of wool, pig prices and the amount of acres that can be ploughed. Great work by William, Dylan and Charlie for getting the most right.
Wythnos 5 - Creu Ogof i Mistar Urdd
Creu ogof i Mistar Urdd oedd y dasg yn y Clwb Minecraft heddiw - da iawn i Charlie, Jayden, Aled a William am gwblhau y dasg gyda'r meini prawf cywir.
Creating a cave for Mistar Urd was today's task. Well done to Charlie, William, Jayden and Aled for their success with the criteria.
Dyma flas / Just a taster:
Wythnos 4 - Her Adeiladu 1 - Building Challenge 1
Yr her yr wythnos hon oedd parhau gyda datblygu'r glasbrintiau o'r wythnos diwethaf, a throi ein adeiladau yn rhan o'r pentref trwy adeiladu ffyrdd. Mae un neu ddau o'r adeiladau yn edrych yn wych yn awr a llongyfarchiadau anferth i Ethan a Dylan am gwblhau adeiladau cymhleth iawn.
The challenge this week was to continue to develop our blueprint structures and transform our collective buildings into an extension of the village through a road system. One or two of the buildings look brilliant now and congratulations to Ethan and Dylan for completing very complex buildings.
Wythnos 3 - Her Adeiladu Glasbrintiau / Blueprint Building Challenge
Yr her yr wythnos hon oedd dilyn cyfarwyddiadau manwl i adeiladu nifer o strwythurau gwahanol gan gynnwys cestyll, beudai, llongau, eglwysi a thai. Llongyfarchiadau i bawb am eu hymderch yn enwedig Jayden, Ethan, Lily, Lewis, Charlie, Aled a William a lwyddodd i lynnu at y glasbrint yn fanwl iawn.
The challenge this week was to follow Blueprint plans to create various structures and buildings. They included castles, outbuildings, ships, churches and houses. Congratulations to everyone for their efforts especially so Jayden, Ethan, Lily, Lewis, Charlie, Aled and William for being so accurate with their plans.
Braf oedd gweld y Clwb yn llawn unwaith eto yr wythnos hon
Great to see the Clwb so full again this week with lots of creative people
Wythnos 2 - Byd y Cwrs Antur
Clwb MinecraftEdu llawn cyffro eto yr wythnos hon gyda'r Cwrs Antur hynod o heriol. Llongyfarchiadau i Noah ac Eleri am gyrraedd y brig. Her adeiladu fydd yr wythnos nesaf.
Another exciting MinecraftEdu Club this week with a very challenging Assault Course. Congratulations to Noah and Eleri for their excellent performance today. It will be a building challenge in Creative Mode next week so be prepared!
Wythnos 1 - Y Byd Tiwtorial
Roedd y Clwb MinecraftEdu cyntaf yn llwyddiant ysgubol, ystafell ddosbarth lawn o digon o heriau i gadw'r aelodau'n brysur.
The first MinecraftEdu Club was a brilliant success, a full classroom of happy and adventurous children.